Dideitl

Cyhoeddwyd 01/03/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/02/2024   |   Amser darllen munudau

Martin Richman

Martin Richman a benodwyd gan y Cynulliad i ychwanegu lliw i’r Senedd. Aed ati i ganolbwyntio ar ddefnydd eang y pensaer o baneli acwstig wedi’u gorchuddio â ffabrig, a’r modd y gellir defnyddio’r paneli hyn fel cyfrwng celfyddydol. Mae’r paneli tua dau fetr o uchder a metr o led, ac o’r 600 panel a osodwyd yn yr adeilad, mae’r artist wedi gweithio ar ryw 270 ohonynt.

Mae pob panel wedi ei wneud o ffrâm bren sy’n dal deunydd amsugno sain gyda defnydd niwtral arbennig wedi ei ymestyn yn dynn dros y cyfan. Bu’r artist yn gweithio’n agos gyda’r penseiri a gwneuthurwyr y paneli er mwyn dewis defnydd addas ar gyfer y ‘cynfasau’, a derbyniodd y defnydd wedi ei farcio fesul ystafell a fesul panel. Bu hyn yn fodd o alluogi’r artist i greu cynllun arbennig ar gyfer pob ystafell. Bu Martin Richman hefyd yn gweithio’n agos gyda’r penseiri a’r gwneuthurwyr i ddewis lliw ar gyfer gweddill y paneli ‘plaen’.

Sylwadau’r Artist

“Wrth fynd ati i addurno’r paneli acwstig, cawsom gyfle i gyflwyno lliw i’r adeilad newydd heb effeithio ar y broses adeiladu. Seiliwyd y delweddau ar y syniad bod egni a ffrwynwyd bellach yn cael ei ryddhau yng Nghymru. Caiff cymeriad arbennig Cymru ei adlewyrchu yn y strata daearegol a gwaddod y mwynau sydd wedi creu cyfoeth diwylliannol a masnachol y wlad dros y blynyddoedd.

Cafodd adeilad y Senedd ei ddylunio fel bo’r siambr dan ddaear. Roeddwn yn credu bod cyfle i gymharu egni’r drafodaeth yn y Gymru newydd â’r egni posib yn ei thirwedd. Mae’r paneli’n awgrymu bod yr egni naturiol hwn yn treiddio drwy’r cynfasau.”