Calon Cymru

Cyhoeddwyd 01/03/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/02/2024   |   Amser darllen munudau

Calon Cymru

Alexander Beleschenko, artist o Abertawe sydd wedi ennyn edmygedd ledled y byd, a greodd y gwaith sy’n ganolbwynt i’r Siambr. Yr oedd Beleschenko’n ymateb i’r briff ‘Y Cynulliad – curiad calon Cymru’ a saernïodd gromen ddau fetr o led, sy’n codi o lawr derw’r Siambr.

Crëwyd y gwaith drwy baentio patrwm haniaethol ar ddarnau gwydr 10mm o drwch, cyn eu chwalu, eu hailffurfio mewn mowld a’u bondio gyda resin. Mae’r cyfan yn eistedd ar haenen o wydr trwchus mewn ffrâm o ddur gloyw. Caiff y gwaith ei oleuo o’r tu mewn gyda golau ffeibr-optig.

Calon Cymru

Sylwadau’r Artist

“Mae’r gwaith gwydr crwn a chrwm a osodwyd yng nghanol y Siambr yn ymddangos fel pe bai’n egino o’r llawr ac o ganlyniad mae’n adlewyrchu’r Cynulliad fel corff newydd sy’n datblygu. Mae’r gwaith ar ffurf delwedd haniaethol sy’n chwyrlïo ac mae dotiau o wahanol faint yn estyn o ganol y gwaith. Mae deinameg y dotiau yn awgrymu bod grymoedd gwrthgyferbyniol ar waith – mae’r hyn sy’n estyn allan hefyd yn troi’n ôl tua’r canol.  I mi, mae’n adlewyrchu’r ffordd y mae’r Cynulliad yn gweithio, drwy wrando a llywodraethu.

Mae’r gwaith yn gyfuniad o wahanol haenau o wydr o wahanol drwch. Cafodd y gwydr ei chwalu cyn cael ei ailffurfio i greu siâp newydd. Mae’r broses hon yn creu wyneb anarferol sy’n dal y golau.”