Man Cyfarfod ar y Plinth

Cyhoeddwyd 01/03/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/02/2021   |   Amser darllen munudau

Man Cyfarfod ar y Plinth

Y cerflunydd Richard Harris a ddewiswyd i saernïo’r ‘Man Cyfarfod ar y Plinth’, sef strwythur unigryw sy’n estyn allan o ochr ddeheuol plinth y Senedd. Dewisodd yr artist 39 darn o lechfaen o chwarel Cwt-y-Bugail, ger Llan Ffestiniog i greu’r gwaith. Yr un chwarel a ddarparodd y llechi a ddefnyddiwyd tu mewn i’r Senedd ac o’i hamgylch.

Dewiswyd pob carreg gan yr artist o blith y llechfeini crai olaf i gael eu cloddio yng Nghwt-y-Bugail gan ddefnyddio dulliau ffrwydro traddodiadol. Ar ôl i Richard Harris eu dewis, fe’u cludwyd i chwarel Ffestiniog i’w torri. Cymerwyd hyd at ddau ddiwrnod i dorri pob llechfaen i’w ffurf derfynol. Amcangyfrifir bod y gwaith yn pwyso 45 tunnell.

 

Sylwadau’r Artist

“Ers cychwyn y comisiwn, mae'r syniad bod y gwaith yn meithrin perthynas rhwng y bobl, yr adeilad a'r bae wedi bod yn bwysig i mi.

Cafodd y cerflun ei greu o'r un llechen ag a ddefnyddiwyd y tu mewn a’r tu allan i adeilad y Senedd, llechi a gafodd eu cloddio o'r mynyddoedd yn ardal Ffestiniog. Mae'r llechi yn fawr ac yn grai o’u cymharu â'r llechi a ddefnyddir yn yr adeilad. Fe’i llifiwyd a'u dwyn ynghyd i greu strwythur ysgafn ar ffurf adain sydd yn crymanu o amgylch cornel yr adeilad. Cafodd ochrau allanol y llechi eu gadael yn eu ffurf grai, ond mae ochrau'r llechi ar y tu mewn yn llyfn i greu gofod newydd a chlòs. Rwy’n mawr obeithio y bydd pobl yn mynd yno.”