Maes y Cynulliad

Cyhoeddwyd 01/03/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/02/2024   |   Amser darllen munudau

Crëwyd ‘Maes y Cynulliad’ gan yr artist gwydr enwog Danny Lane ac fe’i codwyd o flaen yr adeilad ger y lifftiau allanol. Cynlluniwyd y gwaith gyda golwg ar ymarferoldeb gan fod y gwydr yn cysgodi ymwelwyr rhag y gwyntoedd cryfion wrth iddynt ddringo’r grisiau i’r Senedd.

Pum rhes gyfochrog o 32 o baneli gwydr yw’r gwaith. Mae pob panel rhwng 100cm a 240cm o uchder, 50cm o led a 3.4cm o drwch, ac yn cynnwys dau baen o wydr wedi ei gryfhau â gwres a’i fondio â sêl a fyddai’n atal y gwydr rhag chwalu’n deilchion pe bai rhywbeth yn ei daro. Mae’r paneli wedi’u gosod ar fracedi arbennig o dan y pafin, gan awgrymu bod y gwydr yn diflannu i mewn i lechi’r plinth.

Un o brif nodweddion y maes yw’r newidiadau ymddangosiadol sy’n taro pobl wrth iddynt grwydro o’i amgylch. Gan mai gwydr trwchus yw’r paneli, mae’r gwaith yn dryloyw ac, o edrych arno o’r tu blaen, mae bron â bod yn anweladwy. Mae wynebau’r paneli’n adlewyrchu golau ac yn ddrych o’r hyn sydd o’u cwmpas, ac mae’r ymylon yn creu cyfres o linellau emrallt.

Maes y Cynulliad

Sylwadau’r Artist

"Mae’r ‘gwrych gwynt’ hwn yn wrthrych gwydr gweithredol. Fe’i dyluniwyd yn unol â gofynion llym er mwyn gwrthsefyll effaith ffrwydrad ac effaith y gwyntoedd cryfion sy’n taro ffasâd y Senedd. Er hyn, mae’n wrthrych hollol dryloyw.

Ceir 32 panel gwydr clir wedi eu trefnu ar grid chweochrog. Gellir cerdded o amgylch y paneli sydd wedi’u gosod ar ogwydd o 30 gradd ac mae’r golau’n adlewyrchu oddi ar wyneb y gwydr. O un man cyfagos mae modd gweld drwy’r maes cyfan. Mae hwn yn waith syml yn ei hanfod sy’n ymateb creadigol i adeilad eithriadol sydd o bwys diwylliannol mawr."