Tri map o Gymru

Cyhoeddwyd 01/03/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/02/2021   |   Amser darllen munudau

Tri Map o Gymru

Mae’r cerfluniau gan Angharad Pearce Jones, un o brif artistiaid Cymru yn cael eu harddangos yn barhaol yn y Senedd i roi cyfle i bobl ddysgu am y Senedd a’r Aelodau sy’n eu cynrychioli a theimlo rhyw gysylltiad â nhw.

Cafodd y darnau i gyd eu creu yng ngweithdy’r cerflunydd ger Brynaman drwy ddefnyddio dur o waith TATA ym Mhort Talbot, gan gadw at ei hymrwymiad i ddefnyddio defnyddiau a chrefftwaith Cymreig yn ei gwaith.

Mae dau o’r mapiau yn annog pobl i ddysgu am ffiniau etholaethau a rhanbarthau’r Senedd, ac am yr Aelodau sy’n eu cynrychioli. Mae’r trydydd map yn ddarn o gelf trawiadol sy’n dathlu tirwedd Cymru wrth i fynyddoedd, bryniau a dyffrynnoedd ffurfio tonnau ar wyneb y gwaith. 

Tri Map o Gymru

Sylwadau’r artist

“Yn dechnegol, roedd y map mwyaf yn heriol oherwydd yr haenau o ddur dalennog roedd eu hangen i greu’r mynyddoedd a’r dirwedd. Cafodd pob dalen ei thorri’n unigol, ac roedd angen bod yn ofalus wrth eu dewis a’u rhoi wrth ei gilydd cyn eu gosod yn eu trefn i adeiladu’r mynyddoedd a chreu’r dyffrynnoedd.”

Mae’r cerflun yn pwyso chwarter tunnell, ac yn mesur dau fetr o led ac ychydig dros ddau fetr o daldra. Mae wedi’i osod ar olwynion, er mwyn medru ei arddangos mewn gwahanol rannau o’r Senedd, a chaiff pobl eu hannog i gyffwrdd â’r dur, i deimlo’r cadwyni o fynyddoedd a dilyn llwybr y dyffrynnoedd a’r arfordir dramatig. 

“Rwy’n teimlo fy mod i wedi dod i adnabod a gwerthfawrogi Cymru, pob modfedd ohoni, a’i gweld hi o’r newydd,” meddai Angharad. “Gobeithio y bydd pobl yn teimlo'r un fath ac yn gwerthfawrogi prydferthwch y tir, y mynyddoedd a siâp y wlad mewn ffordd nad ydi’n bosibl ar fap neu sat nav.”