Biliau Arfaethedig Aelod

Mae Bil Aelod yn Fil a gyflwynir gan Aelod o'r Senedd unigol.

Rhaid i unrhyw Aelod sydd am gynnig Bil wneud cais i gael ei gynnwys mewn balot a gaiff ei gynnal gan y Llywydd. 

Caiff Aelod sy’n llwyddiannus yn y balot gyflwyno cynnig wedyn, sy’n gofyn i’r Senedd gytuno iddo gyflwyno Bil, i roi grym i’r cynnig sydd wedi’i gynnwys yn y datganiad esboniadol a gyflwynwyd gyda’r cynnig. Os derbynnir y cynnig hwnnw, bydd gan yr Aelod 13 mis i gyflwyno Bil yn ffurfiol.

Ar ôl ei gyflwyno, mae Bil Aelod yn ddarostyngedig i’r un broses graffu â Biliau eraill.

Balotau Biliau Aelod

Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl etholiad, rhaid i’r Llywydd gyhoeddi amserlen sy’n nodi pryd y cynhelir balotau i benderfynu ar enwau Aelodau, heblaw aelodau o’r Llywodraeth, a gaiff ofyn am gytundeb i gyflwyno Bil Aelod. 

Mae’r Llywydd wedi cyhoeddi amserlen sy’n nodi pryd y cynhelir balotau yn ystod y Seithfed Senedd. Cynhelir y balotau ar y dyddiadau canlynol:

  • Dydd Mercher 14 Hydref 2026
  • Dydd Mercher 7 Gorffennaf 2027

Caiff y Llywydd newid yr amserlen os yw’n credu ei fod yn briodol gwneud hynny.

 

Canllawiau i Aelodau

Mae rhagor o wybodaeth am Filiau Aelod ar gael yn y Canllaw i'r Broses ar gyfer Bil Aelod. Fel arall, anfonwch e-bost at y tîm Biliau Aelod os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch.