James Evans AS

James Evans AS

Datblygu'r Bil Safonau Gofal Iechyd Meddwl (Cymru)

Cyhoeddwyd 18/10/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/02/2024   |   Amser darllen munudau

O bryd i'w gilydd, rhaid i'r Llywydd gynnal balot i benderfynu ar enw Aelod, heblaw aelod o'r Llywodraeth, a gaiff ofyn am gytundeb y Senedd i gyflwyno Bil.

Rhaid i Aelod ddarparu "gwybodaeth cyn y balot" yn nodi bwriad y Bil arfaethedig.

Os bydd y Senedd yn cytuno i gyflwyno Bil o'r fath, gall enillydd y Balot ymgynghori ar ei gynigion cyn cyflwyno'r Bil yn ffurfiol.

Prif Gerrig Milltir Manylion

Dyddiad y balot

 18 Hydref 2023

Dadl lle bydd y Senedd yn trafod cyflwyno Bil i roi effaith i’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn y Memorandwm Esboniadol

Memorandwm Esboniadol i'r cynnig a gyflwynwyd ar 22 Tachwedd 2023
Caniatâd i frwrw ati Y Cyfarfod Llawn, 13 Rhagfyr 2023
Ymgynghoriad Ar 2 Chwefror 2024, lansiodd James Evans AS ymgynghoriad ar ei gynnig ar gyfer y Bil Safonau Gofal Iechyd Meddwl (Cymru), yn gwahodd pobl i roi eu barn ar amcanion polisi’r gyfraith arfaethedig. Disgwylir i’r ymgynghoriad ddod i ben ar 22 Mawrth 2024.

Teitl gwreiddiol y Bil oedd y Bil Iechyd Meddwl (Cymru).

Cyn cyflwyno Memorandwm Esboniadol i'r cynnig, newidiodd James Evans y teitl i’r Bil Safonau Gofal Iechyd Meddwl (Cymru).