Rydym am glywed eich barn am Senedd TV. Cymerwch ran yn ein harolwg byr i’n helpu i wella’r gwasanaeth.
Cynnig 016 - James Evans AS
Cyhoeddwyd 20/09/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munud
Mae'r canlynol yn gynnig ar gyfer Bil Aelod a gyflwynwyd yn ystod y Chweched Senedd:
Aelod sy'n Cynnig:
Teitl y Bil Arfaethedig:
Bil Iechyd Meddwl (Cymru)
Amcanion Polisi y Bil:
Darparu ar gyfer disodli deddfwriaeth iechyd meddwl sydd wedi dyddio; gwella'r modd y darperir cynlluniau iechyd meddwl ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc a gwasanaethau i oedolion; gwella atebolrwydd sefydliadau sector cyhoeddus Cymru; gwarantu cydraddoldeb rhwng triniaethau iechyd corfforol a thriniaethau iechyd meddwl; a helpu i leihau stigma iechyd meddwl yng Nghymru.