Rydym am glywed eich barn am Senedd TV. Cymerwch ran yn ein harolwg byr i’n helpu i wella’r gwasanaeth.
Cynigion a Gyflwynwyd ar gyfer Bil Aelod
Mae'r Rheolau Sefydlog yn ei gwneud yn ofynnol i Aelodau sy'n dymuno cael eu cynnwys yn y balot ar gyfer Bil Aelod gyflwyno gwybodaeth cyn y balot.
Bydd yr holl wybodaeth cyn y balot a gyflwynir yn cael ei chyhoeddi. Dim ond un cynnig ar gyfer unrhyw falot y caiff aelodau ei gyflwyno ond gallant ddiwygio neu newid eu cynnig ar unrhyw adeg rhwng balotau. Bydd y cynigion sydd wedi'u cynnwys yn y rhestr gyhoeddedig yn cael eu cynnwys ym mhob balot, oni bai bod yr Aelodau'n hysbysu swyddogion y Senedd yn wahanol.
Cynigion a Gyflwynwyd
Mae'r cynigion canlynol ar gyfer Bil Aelod wedi'u Cyflwyno yn ystod y Chweched Senedd a chânt eu cynnwys yn y balot nesaf:
| Rhif y Cynnig | Teitl y Bil Arfaethedig | Aelod o'r Senedd |
|---|---|---|
| 002 | Bil Cofebion Milwrol (Cymru) | Darren Millar AS |
| 003 | Bil Cyfamod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) | Russell George AS |
| 008 | Bil Mynd i'r Afael â Digartrefedd (Cymru) | Altaf Hussain AS |
| 013 | Bil Hawliau Pobl Hŷn (Cymru) | Gareth Davies AS |
| 015 | Bil Asesiadau Gofal (Cymru) | Rhys ab Owen AS |
| 017 | Bil Calonnau Cymru | Alun Davies AS |
| 021 | Bil Defnyddio Budd-daliadau (Cymru) | Sioned Williams AS |
| 027 | Bil Cynllunion Morol (Cymru) | Janet Finch-Saunders AS |
| 031 | Bil Grymuso Cymunedau (Cymru) | Jane Dodds AS |
| 035 | Bil Darparu Cynhyrchion Mislif am Ddim (Cymru) | Heledd Fychan AS |
| 037 | Bil Adeiladu Cyfoeth Cymunedol (Cymru) | Luke Fletcher AS |
| 038 | Bil Achosion Gofal (Cynnwys Rhieni) (Cymru) | Mark Drakeford AS |
| 039 | Bil Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (Tryloywder) | Laura Anne Jones AS |
| 040 | Bil Cryfhau Llais a Galluedd Menywod yn eu Gofal Iechyd eu Hunain (Cymru) | Delyth Jewell AS |
| 041 | Bil Croeso Cymru Annibynnol | Tom Giffard AS |
| 042 | Bil Ffyrdd (Dirymu’r Terfyn 20 mya) (Cymru) | Andrew RT Davies AS |
| 043 | Bil Ffyrdd (Dirymu’r Terfyn 20 mya) (Cymru) | Natasha Asghar AS |
| 044 | Bil Democratiaeth (Cymru) | Adam Price AS |
Mae'r cynigion canlynol ar gyfer Bil Aelod wedi'u dileu neu eu newid yr Aelod sy'n cynnig ers ei gyflwyno a'i gyhoeddi gyntaf. Ni fydd y rhain bellach yn cael eu cynnwys mewn balotau dilynol.
| Rhif y Cynnig | Teitl y Bil Arfaethedig | Aelod o'r Senedd |
|---|---|---|
| 001 | Bil Diogelu Cofebion Rhyfel (Cymru) | Paul Davies AS |
| 004 | Bil Dŵr Mewndirol (Cymru) | Samuel Kurtz AS |
| 005 | Bil Dileu Gwastraff mewn Meddyginiaeth y GIG (Cymru) | Natasha Asghar AS |
| 006 | Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) | Mark Isherwood AS |
| 007 | Bil Llifogydd (Cymru) | Janet Finch-Saunders AS |
| 009 | Bil Lles Anifeiliaid (Gwahardd maglau a thrapiau glud) (Cymru) | Vikki Howells AS |
| 010 | Bil Carbon Glas (Cymru) | Joyce Watson AS |
| 011 | Bil Diogelu Arian Dargadw Adeiladu (Cymru) | Joel James AS |
| 012 | Bil Anifeiliaid Anwes mewn Tai (Cymru) | Luke Fletcher AS |
| 014 | Bil Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) | Laura Anne Jones AS |
| 019 | Bil Economi Gydweithredol a Pherchnogaeth Gweithwyr (Cymru) | Huw Irranca-Davies AS |
| 020 | Bil Datblygu Economaidd (Cymru) | Tom Giffard AS |
| 022 | Bil Tai Cymunedol (Cymru) | Mabon ap Gwynfor AS |
| 023 | Bil Asesiad Budd Cymunedol | Rhun ap Iorwerth AS |
| 024 | Bil Troseddau Trapiau Glud (Cymru) | Andrew RT Davies AS |
| 025 | Bil Tai Cymunedol (Cymru) | Llyr Gruffydd AS |
| 026 | Bil Tai Cymunedol (Cymru) | Peredur Owen Griffiths AS |
| 028 | Bil Chwaraeon a Chyfleusterau (Cymru) | Laura Anne Jones AS |
| 030 | Bil Rheoleiddio Adeiladwyr (Cymru) | Natasha Asghar AS |
| 032 | Bil Anaffylacsis mewn Ysgolion (Cymru) | Andrew RT Davies AS |
| 034 | Bil Ymchwiliadau Lles Anifeiliaid (Cymru) | Samuel Kurtz AS |
| 036 | Bil Gwahardd Dichell (Senedd) | Adam Price AS |
Mae'r cynigion canlynol ar gyfer Bil Aelod wedi bod yn llwyddiannus yn sgil pleidlais. Cewch weld eu cynnydd a'u datblygiad yma. Ni fydd y rhain, bellach, yn cael eu cynnwys mewn pleidleisiau dilynol.
| Rhif y Cynnig | Teitl y Bil Arfaethedig | Aelod o'r Senedd |
|---|---|---|
| 016 | Bil Iechyd Meddwl (Cymru) | James Evans AS |
| 018 | Bil Bwyd (Cymru) | Peter Fox AS |
| 029 | Bil Addysg Awyr Agored (Cymru) | Sam Rowlands AS |
| 033 | Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (Cymru) | Mark Isherwood AS |