Pobl y Senedd
Natasha Asghar AS
Aelod Etholaethol o'r Senedd
Ceidwadwyr Cymreig
Grŵp Plaid Ceidwadwyr Cymreig
Casnewydd Islwyn
Cymdeithasol
Manylion Cyswllt
Cyfeiriad Swyddfa:
Rathbone House
1 Serpentine Road
Casnewydd
NP20 4PF
Swyddfa
01633 215 138
Cyfeiriad Senedd:
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Senedd
0300 200 7235
Fy Ngweithgareddau yn y Senedd
Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr
Gwybodaeth fanwl: Natasha Asghar AS
-
Bywgraffiad
chevron_right -
Aelodaeth
chevron_right -
Tymhorau yn y swydd
chevron_right -
Cofrestr Buddiannau
chevron_right -
Etholiadau
chevron_right -
Asedau'r Cyfryngau
chevron_right
Bywgraffiad
Prif ddiddordebau a chyflawniadau
Wedi'i geni yng Nghasnewydd, Natasha yw'r fenyw gyntaf o liw i gael ei hethol i'r Senedd. Yn 2021, cafodd ei hethol yn Aelod rhanbarthol dros Ddwyrain De Cymru. Yn y Seithfed Senedd, mae'n dychwelyd fel Aelod dros etholaeth Casnewydd Islwyn.
Hanes personol
Mae cefndir Natasha ym maes y cyfryngau, gan gynnwys teledu, radio a phrint, ac mae hi wedi gweithio’n flaenorol fel banciwr ac yn y Senedd. Cyn cael ei hethol yn 2021, safodd Natasha fel ymgeisydd mewn sawl etholiad ar gyfer y Senedd ac ar lefel y DU. Safodd ddwywaith dros hen etholaeth Dwyrain Casnewydd, ac unwaith dros hen etholaeth Blaenau Gwent a Thorfaen.
Cefndir proffesiynol
Mae gan Natasha radd BA mewn Gwleidyddiaeth a Pholisi Cymdeithasol, ac mae ganddi hefyd radd Meistr mewn Polisi Prydeinig Cyfoes a'r cyfryngau o Brifysgol Llundain.
Hanes gwleidyddol
Ers cael ei hethol i’r Senedd am y tro cyntaf y 2021, mae Natasha wedi cael ei chyfweld nifer o weithiau, gan y BBC, ITV, y South Wales Argus, The National, y Caerphilly Observer, a chylchgrawn Golwg, ac mae wedi ymddangos ar raglenni panel fel Sharp End. Cafodd Natasha ei disgrifio fel “grym dros newid” gan British Vogue, ac yn 2021, cafodd ei henwi gan y BBC fel un o’r 100 o fenywod mwyaf ‘dylanwadol ac ysbrydoledig’ yn y byd, ochr yn ochr â Malala Yousavzai, Melinda Gates a’r actores Ming-Na Wen.
Yn ystod ei chyfnod fel Aelod Rhanbarthol dros Ddwyrain De Cymru, rhwng 2021 a 2026, gwnaeth Natasha fwy nag 800 o gyfraniadau yn y Senedd, cymerodd ran mewn mwy na 450 o gyfarfodydd ac ymweliadau, a rhoddodd gymorth i oddeutu 5,000 o etholwyr.
Yn y chweched Senedd, roedd Natasha yn gyfrifol am sawl portffolio cysgodol, gan gynnwys gwasanaethu fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Drafnidiaeth. Yn y rôl honno, arweiniodd yr ymgyrch yn y Senedd yn erbyn terfynau 20mya diofyn, ac yn sgil y gwaith hwnnw, enillodd wobr Gwleidydd Datganoledig y Flwyddyn yn y Gwobrau Bywyd Gwleidyddol a Chyhoeddus yn 2023. Ar ben hynny, enillodd wobr ‘The Iron Lady of the Year’ gan Sefydliad Byd-eang MyDream yn 2025.
Rhwng 2024 a 2026, gwasanaethodd Natasha fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Blant, Pobl Ifanc ac Addysg, gyda chyfrifoldeb dros fenywod. Ymgyrchodd ym maes disgyblaeth yn yr ystafell ddosbarth, addysgu sgiliau bywyd, a chydnabod lleoedd un rhyw yn dilyn dyfarniad y Goruchaf Lys yn 2025.
Ar hyn o bryd, Natasha yw deiliad portffolio cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gan ddod â'r un angerdd a ffocws i'w chyfraniadau yn y Senedd. Mae Natasha bob amser wedi bod yn frwdfrydig dros wneud gwahaniaeth, ac mae'n credu'n gryf y dylai'r rhai sy’n gwasanaethu yn y Llywodraeth "wneud yn ogystal â dweud”.
Arall
Yn ei bywyd personol, mae Natasha yn mwynhau teithio, treulio amser gyda'i ffrindiau, coginio, gwylio ffilmiau, a gwneud gwaith elusennol.
Aelodaeth
Tymhorau yn y swydd
- 08/05/2021 - 07/04/2026
- 08/05/2026 -
Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol
Gweld y Gofrestr Fuddiannau GyfredolSeneddau Blaenorol
- Cofrestr Buddiannau – Y Chweched Senedd (PDF, 2.50MB)