Y Gweinidog Cabinet dros
Iechyd a Gofal
Prif ddiddordebau a chyflawniadau
Mae Mabon ap Gwynfor yn ymddiddori mewn ystod eang o feysydd, yn cynnwys materion
rhyngwladol yn ymwneud a heddwch a chydberthynas gwladwriaethau; a hawliau
cymunedol a phobl. Sefydlodd Mabon Gyngrhair Iechyd Gogledd Cymru yn 2013.
Roedd yn gyd-drefnydd i wyliau heddwch cenedlaethol Cymru o 2004 i 2006. Mae
Mabon yn Gristion. Mae’n arlunydd cain amatur, ac yn ymddiddori mewn
ffotograffiaeth, darllen yn eang, a chwarae gyda’I blant.
Hanes personol
Mae Mabon yn wr I Nia, ac yn dad I bedwar o blant. Maent yn byw ar y fferm
deuluol. Yn fab I’r mans, symudodd y teulu I wahanol gymunedau. O ganlyniad
mynychodd Mabon amryw o ysgolion uwchradd: Ysgol Gyfun Dyffryn Teifi, Ysgol
Gyfun Gwyr, a Chanolfan Gwenallt yn Ystalyfera, gyda chyfnod byrhoedlog yn
Ysgol St Roses, Georgetown, Guyana.
Cefndir proffesiynol
Graddiodd Mabon o Brifysgol Cymru, Bangor gyda gradd BA mewn Hanes. Mae
cefndir proffesiynol Mabon yn y wasg a rheoli proseictau.
Hanes gwleidyddol
Etholwyd Mabon fel Cynghorydd Tref yn Aberystwyth yn 2004, ac fel
Cynghorydd Sir ar gyfer ward Llandrillo ar Gyngor Sir Ddinbych yn 2017.