Prif ddiddordebau
a chyflawniadau
Yn wleidyddol, y meysydd allweddol i Janet yw
sicrhau mwy o fuddsoddiad mewn iechyd a gwasanaethau cymdeithasol – yn arbennig
ar gyfer yr henoed a'r rhai sy'n dioddef o salwch iechyd meddwl; lleihau
rheoleiddio a biwrocratiaeth i ffermwyr; sicrhau'r broses lawn o gyflwyno band
eang cyflym iawn mewn ardaloedd gwledig; cefnogi busnesau bach a chanolig; a
lleihau gwastraff mewn Llywodraeth ar bob lefel er mwyn sicrhau gwerth am arian
i'r trethdalwr. Y tu hwnt i wleidyddiaeth, mae Janet yn frwd iawn o blaid anifeiliaid
a chadwraeth forol, ac mae'n weithgar yng nghymuned Llandudno. Mae'n forwr brwd, ac yn mwynhau treulio amser
gyda'i theulu.
Hanes personol
Mae Janet yn briod â Gareth Saunders. Maent yn
byw yn Llandudno, ac mae ganddynt ddau o blant gyda’i gilydd – Adam a Hannah.
Cefndir
proffesiynol
Fel menyw fusnes ac entrepreneur brwd, sefydlodd
Janet nifer o fusnesau lleol llwyddiannus. Mae'n gefnogol o fusnesau newydd a
busnesau bach a chanolig sydd wedi ennill eu plwyf, a chychwynnodd y Grŵp Trawsbleidiol ar Siopau Bach yn ystod y
Pedwerydd Cynulliad.
Hanes gwleidyddol
Ar hyn o bryd, mae Janet yn Aelod o Senedd Cymru
yn cynrychioli etholaeth Bangor Conwy Môn. Yn flaenorol, gwasanaethodd fel
Aelod Cynulliad y Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer Aberconwy ers 2011, ac yn 2016,
Janet oedd y deiliad cyntaf i gadw'r sedd yn y Cynulliad. Yn flaenorol, Janet oedd deiliad y portffolio
ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, a chynrychiolodd y Grŵp fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol
rhwng 2012 a 2016 yn ystod y Pedwerydd Cynulliad, gan eistedd ar y Pwyllgor
Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol. Cadwodd Janet y portffolio hwnnw
fel Llefarydd yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol yn y Pumed Cynulliad. Yn y
gorffennol, cynrychiolodd Janet ward Craig-y-Don ar Gyngor Tref Llandudno a
Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Yn yr
awdurdod lleol, bu'n eistedd fel Aelod Cabinet â chyfrifoldeb cyffredinol dros
ddiogelwch cymunedol, ac mae wedi bod yn Gadeirydd y Prif Bwyllgor Craffu ac yn
Arweinydd Grŵp y
Ceidwadwyr Cymreig. Mae Janet yn falch o fod yn gyn-Faer Llandudno, fel y bu ei
mam a’i thad cyn hynny.