Pobl y Senedd
Darren Millar AS
Aelod Etholaethol o'r Senedd
Ceidwadwyr Cymreig
Grŵp Plaid Ceidwadwyr Cymreig
Clwyd
Cymdeithasol
Manylion Cyswllt
Cyfeiriad Swyddfa:
Parc Busnes Gogledd Cymru
Abergele
LL22 8LJ
Swyddfa
0300 200 6206
Cyfeiriad Senedd:
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Senedd
0300 200 7214
Fy Ngweithgareddau yn y Senedd
Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr
Gwybodaeth fanwl: Darren Millar AS
-
Bywgraffiad
chevron_right -
Aelodaeth
chevron_right -
Tymhorau yn y swydd
chevron_right -
Cofrestr Buddiannau
chevron_right -
Etholiadau
chevron_right -
Asedau'r Cyfryngau
chevron_right
Bywgraffiad
Etholwyd Darren i Senedd Cymru am y tro cyntaf yn 2007, i gynrychioli etholaeth Gorllewin Clwyd, fel yr oedd ar y pryd. Mae bellach ar ei bumed tymor o wasanaeth, ac wedi bod yn cynrychioli etholaeth Clwyd ers mis Mai 2026.
Cyn cael ei ethol i'r Senedd, bu Darren yn gweithio fel rheolwr mewn elusen ryngwladol sy’n cefnogi Cristnogion sy’n cael eu herlid ar draws y byd. At hynny, bu’n gyfrifydd yn gweithio yn y diwydiannau adeiladu, cartrefi gofal a thelathrebu.
Ar ôl cael ei fagu yn Nhywyn, mae Darren bellach yn byw ym Mae Cinmel gyda'i wraig a'u dau blentyn, sy’n blant hŷn erbyn hyn.
Ym mis Rhagfyr 2024, cafodd Darren ei ethol yn unfrydol i fod yn Arweinydd Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, a bu’n gwasanaethu fel Arweinydd yr Wrthblaid yn y Senedd tan ddechrau 2026.
Yn ystod ei gyfnod fel Aelod o Senedd Cymru, mae Darren wedi bod yn gyfrifol am amryw o bortffolios yr wrthblaid, gan gynnwys Iechyd, Addysg, Llywodraeth Leol, y Cyfansoddiad, Gogledd Cymru a Materion Rhyngwladol. At hynny, bu’n gwasanaethu fel Prif Chwip y Ceidwadwyr Cymreig ac fel Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus dylanwadol y Senedd.
Mae Darren yn un o sylfaenwyr Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Ffydd a'r Grŵp Trawsbleidiol ar y Lluoedd Arfog a'r Cadetiaid, ac yn Cyn-gadeirydd ar y naill grŵp a’r llall.
Yn 2000/2001, Darren oedd y maer ieuengaf i wasanaethu yng Nghymru pan ddaeth yn faer ar drefgordd Tywyn a Bae Cinmel, ac mae Darren ar ddeall nad oes maer ifancach wedi bod hyd yn hyn. At hynny, bu’n aelod o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Mae Darren yn Gristion ymroddedig, yn ddarllenydd brwd ac yn seryddwr amatur.
Aelodaeth
Tymhorau yn y swydd
- 04/05/2007 - 31/03/2011
- 06/05/2011 - 05/04/2016
- 06/05/2016 - 28/04/2021
- 08/05/2021 - 07/04/2026
- 08/05/2026 -
Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol
Seneddau Blaenorol
- Cofrestr Buddiannau – Y Chweched Senedd (PDF, 2.50MB)
- Cofrestr Buddiannau – Y Bumed Senedd (PDF, 3.63MB)
- Cofrestr Buddiannau – Y Pedwerydd Cynulliad (PDF, 739KB)
- Cofrestr Buddiannau – Y Trydydd Cynulliad (PDF, 466KB)
Etholiadau
- Etholiad Senedd (Etholaeth) 2021, 06/05/2021
- Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Etholaeth) 2016, 06/05/2016
- Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Etholaeth) 2011, 05/05/2011
- Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Etholaeth) 2007, 03/05/2007
- Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Etholaeth) 2003, 01/05/2003