Pobl y Senedd
Andrew RT Davies AS
Aelod Etholaethol o'r Senedd
Ceidwadwyr Cymreig
Grŵp Plaid Ceidwadwyr Cymreig
Pen-y-bont Bro Morgannwg
Comisiynydd
Cymdeithasol
Manylion Cyswllt
Cyfeiriad Senedd:
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Senedd
0300 200 7227
Fy Ngweithgareddau yn y Senedd
Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr
Gwybodaeth fanwl: Andrew RT Davies AS
-
Bywgraffiad
chevron_right -
Aelodaeth
chevron_right -
Tymhorau yn y swydd
chevron_right -
Cofrestr Buddiannau
chevron_right -
Etholiadau
chevron_right -
Asedau'r Cyfryngau
chevron_right
Bywgraffiad
Prif ddiddordebau a chyflawniadau
Mae diddordebau gwleidyddol Andrew yn cynnwys yr economi, addysg, iechyd a materion gwledig.
Hanes personol
Dyn teulu, ffermwr a hyrwyddwr cymunedol lleol. Ac Aelod o'r Senedd dros Fro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr. Ganwyd Andrew ym 1968. Mae'n briod â Julia ac mae ganddynt bedwar o blant. Mae'n gyn-lywydd Clwb Ffermwyr Ifanc Llantrisant ac yn gadeirydd sefydlol Cymunedau Creadigol ym Mro Morgannwg. Mae hefyd yn llywodraethwr oes Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, ac yn 2016 gwasanaethodd fel llywydd Cymdeithas Amaethyddol Dyffryn Morganwg.
Cefndir proffesiynol
Mae Andrew yn dod o gefndir ffermio, ac mae'n parhau i fod yn bartner gweithredol yn fferm ei deulu yn Llantriddyd ym Mro Morganwg.
Hanes gwleidyddol
Safodd Andrew dros y Ceidwadwyr fel ymgeisydd Seneddol yng Ngorllewin Caerdydd yn etholiad cyffredinol 2001, ac yn Aberhonddu a Sir Faesyfed yn etholiad cyffredinol 2005.
Cafodd ei ethol gyntaf i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd ar restr ranbarthol Canol De Cymru yn 2007. Yn ystod tymor y Cynulliad hwnnw, daliodd swyddi gweinidogol yr wrthblaid dros drafnidiaeth, addysg ac iechyd. Etholwyd Andrew yn Arweinydd Grŵp Ceidwadwyr Cymru yn y Senedd gan aelodau'r blaid yng Nghymru yn 2011. Gwasanaethodd yn y rôl honno hyd at fis Mehefin 2018.
Yn 2019, enillodd Andrew is-etholiad i Gyngor Bro Morganwg ar gyfer ward y Rhws ar ymgyrch yn gwrthwynebu cau Ysgol Gynradd Llancarfan.
Yn ystod ei gyfnod fel cynghorydd, rhoddodd Andrew ei gyflog i brosiectau cymunedol ar draws ei ward, gan gynnwys: arian tuag at ddiffibrilwyr allanol awtomataidd cymunedol, adfer pwll Fonmon, cefnogaeth i Lyfrgell Gymunedol y Rhws, goleuadau Nadolig cyhoeddus yn y Rhws, cyllid ar gyfer digwyddiadau allgymorth i drigolion oedrannus a phrosiectau lleol eraill.
Ym mis Ionawr 2021 dychwelodd i rôl Arweinydd Grŵp Ceidwadwyr Cymru yn y Senedd, ac roedd yn y swydd honno hyd at fis Rhagfyr 2024. Ym mis Mai 2026, ail-etholwyd Andrew i'r Senedd, o dan y system etholiadol newydd, fel Aelod dros Fro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr.system etholiadol newydd, fel Aelod dros Fro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr.
Aelodaeth
Tymhorau yn y swydd
- 04/05/2007 - 31/03/2011
- 06/05/2011 - 05/04/2016
- 06/05/2016 - 28/04/2021
- 08/05/2021 - 07/04/2026
- 08/05/2026 -
Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol
Gweld y Gofrestr Fuddiannau GyfredolSeneddau Blaenorol
- Cofrestr Buddiannau – Y Chweched Senedd (PDF, 2.50MB)
- Cofrestr Buddiannau – Y Bumed Senedd (PDF, 3.63MB)
- Cofrestr Buddiannau – Y Pedwerydd Cynulliad (PDF, 739KB)
- Cofrestr Buddiannau – Y Trydydd Cynulliad (PDF, 466KB)