Pobl y Senedd

Delyth Jewell AS

Delyth Jewell AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Plaid Cymru

Grŵp Plaid Cymru

Blaenau Gwent Caerffili Rhymni

Y Dirprwy Weinidog Gofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod

Y Dirprwy Weinidog Gofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod

Mae'r manylion cyswllt a ddarperir yn uniongyrchol ar gyfer Delyth Jewell yn eu rôl fel Aelod o’r Senedd, a dylid eu defnyddio os ydych yn dymuno cysylltu â nhw yn y rôl hon. Os ydych am gysylltu â Delyth Jewell yn eu rôl cwbl ar wahân fel Gweinidog yn Llywodraeth Cymru, defnyddiwch y manylion cyswllt Gweinidogol ar wefan Llywodraeth Cymru: 


Canolfan Cyswllt Cyntaf Llywodraeth Cymru: 0300 060 4400

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Delyth Jewell AS

Bywgraffiad

Y Dirprwy Weinidog Gofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Y Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod

Hanes personol

Cafodd Delyth ei geni yng Nghaerffili a'i magu yn Ystrad Mynach, ac aeth i'r ysgol ym Margoed cyn mynd i astudio ym Mhrifysgol Rhydychen. Ar ôl graddio, cafodd Delyth waith fel ymchwilydd ac ysgrifennwr areithiau yn San Steffan, ac yn 2014 fe ddyfarnwyd iddi wobr 'Ymchwilydd Cyffredinol y Flwyddyn' am ei gwaith paratoadol ar gyfer deddfwriaeth ar stelcio a rheolaeth drwy orfodaeth. Yn ddiweddarach, aeth i weithio i Gyngor ar Bopeth ac Action Aid.

Hanes gwleidyddol

Cafodd Delyth ei hethol i'r Senedd gyntaf yn 2019, yn dilyn marwolaeth drist Steffan Lewis. Fe'i penodwyd yn llefarydd dros ei phlaid ar Brexit a Materion Allanol. Yn 2021, cafodd Delyth ei hailethol i'r Senedd a’i phenodi yn llefarydd dros ei phlaid ar newid hinsawdd a thrafnidiaeth. O 2021 i 2026, Delyth oedd Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol yn y Senedd. Ar ôl iddi gael ei hailethol i’r Senedd yn 2026, cafodd Delyth ei phenodi'n Ddirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod yn Llywodraeth newydd Cymru.

Arall

Mae Delyth yn aelod o Gorws Cenedlaethol Cymreig y BBC.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 08/02/2019 - 28/04/2021
  2. 08/05/2021 - 07/04/2026
  3. 08/05/2026 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Seneddau Blaenorol

Digwyddiadau calendr: Delyth Jewell AS