Roedd Samuel Kurtz yn Aelod o Senedd Cymru rhwng Mai 2011 ac Ebrill 2026.
Hwn oedd ei fywgraffiad pan fu adael.
Prif ddiddordebau a chyflawniadau
Mae Samuel yn eiriolwr cryf dros gefn gwlad Cymru a'r Gymraeg. Ar hyn o
bryd, mae’n is-gadeirydd ar Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Benfro ac
mae wedi ennill sawl cystadleuaeth ar lefel Cymru ac ar lefel genedlaethol, gan
gynnwys siarad cyhoeddus, adloniant ar lwyfan a materion gwledig. Mae Samuel yn
frwd dros chwaraeon, ac mae’n mwynhau chwarae criced, rygbi a phêl-droed.
Hanes personol
Wedi'i eni a'i fagu ar y fferm deuluol gydag unedau gwyliau hunanarlwyo yng
nghanol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, mae Samuel yn siaradwr Cymraeg a
fynychodd ysgolion lleol cyn mynd ymlaen i astudio BA Anrhydedd mewn
Gwleidyddiaeth o Brifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste.
Cefndir proffesiynol
Ar ôl graddio, dychwelodd Samuel i Sir Benfro i weithio fel gohebydd i'r
Pembrokeshire Herald a'r Western Telegraph, cyn dechrau swydd yn swyddfa'r
Aelod Seneddol lleol.
Hanes gwleidyddol
Mae Sam wedi cynrychioli ward Scleddau ar Gyngor Sir Penfro ers 2017 a
chafodd ei ethol fel Aelod o’r Senedd dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro
ym mis Mai 2021.