Pobl y Senedd

James Evans AS

James Evans AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Reform UK

Grŵp Reform UK Wales

Brycheiniog Tawe Nedd

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: James Evans AS

Bywgraffiad

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Mae James wedi ymrwymo i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i gymunedau ledled Brycheiniog Tawe Nedd. Mae ei brif ddiddordebau yn cynnwys cefnogi busnesau lleol, gwella mynediad at ofal iechyd a gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel, hyrwyddo amaethyddiaeth a chymunedau gwledig, a sicrhau buddsoddiad teg ym mhob rhan o'r etholaeth. Cafodd James ei fagu ar fferm deuluol, ac mae ganddo ddiddordeb penodol mewn amaethyddiaeth, yr amgylchedd a dyfodol cefn gwlad Cymru. Ym mis Mehefin 2026, cafodd ei ethol yn Gadeirydd Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Materion Gwledig y Senedd. Mae gan James ddiddordeb hirsefydlog mewn rygbi, ac mae'n falch o’r ffaith ei fod wedi bod yn gapten ar ail dîm Clwb Rygbi Gwernyfed. Mae hefyd yn mwynhau cadw'n heini a cherdded yn y wlad gyda'i sbaengi, Bonnie.

Hanes personol

Cafodd James ei eni a’i fagu yn ardal Brycheiniog a Sir Faesyfed, sydd bellach yn rhan o etholaeth Brycheiniog Tawe Nedd. Yn sgil ei brofiad o dyfu i fyny ar fferm deuluol, gwnaeth James feithrin angerdd gydol oes dros yr awyr agored, amaethyddiaeth a'r cyfraniad pwysig y mae ffermio yn ei wneud i economi, amgylchedd a chymunedau Cymru. Yn ystod ei arddegau, roedd James yn weithgar ym mudiad y Ffermwyr Ifanc. Teithiodd o amgylch yr ardal, gan wneud ffrindiau am oes, datblygu sgiliau ymarferol, a meithrin dealltwriaeth gref o gymunedau gwledig. Ni wnaeth James ddilyn y llwybr traddodiadol i fyd gwleidyddiaeth. Yn hytrach na mynd i’r brifysgol, datblygodd ei sgiliau a'i brofiad drwy gyflogaeth a gwasanaeth cyhoeddus. Mae wedi ymrwymo o hyd i gynrychioli cymunedau Brycheiniog Tawe Nedd a helpu pobl o bob cefndir i gyflawni eu potensial.

Hanes gwleidyddol

Yn 2017, cafodd James ei ethol fel Cynghorydd Sir dros ward Gwernyfed, ac yna gwasanaethodd fel aelod o gabinet Cyngor Sir Powys.  Ym mis Mai 2021, cafodd ei ethol i'r Senedd fel yr Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed. Cafodd ei ail-ethol i'r Senedd ym mis Mai 2026, fel un o’r Aelodau sy’n cynrychioli etholaeth newydd Brycheiniog Tawe Nedd. Ym mis Mehefin 2026, cafodd James ei ethol yn Gadeirydd Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Materion Gwledig y Senedd.

Tymhorau yn y swydd

  1. 08/05/2021 - 07/04/2026
  2. 08/05/2026 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Seneddau Blaenorol

Digwyddiadau calendr: James Evans AS