Pobl y Senedd

Sioned Williams AS

Sioned Williams AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Plaid Cymru

Grŵp Plaid Cymru

Brycheiniog Tawe Nedd

Y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb

Y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb

Mae'r manylion cyswllt a ddarperir yn uniongyrchol ar gyfer Sioned Williams yn eu rôl fel Aelod o’r Senedd, a dylid eu defnyddio os ydych yn dymuno cysylltu â nhw yn y rôl hon. Os ydych am gysylltu â Sioned Williams yn eu rôl cwbl ar wahân fel Gweinidog yn Llywodraeth Cymru, defnyddiwch y manylion cyswllt Gweinidogol ar wefan Llywodraeth Cymru: 


Canolfan Cyswllt Cyntaf Llywodraeth Cymru: 0300 060 4400

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Sioned Williams AS

Bywgraffiad

Y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb

Magwyd Sioned Williams yng Nghwmbrân  ac fe’i haddysgwyd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân ac Ysgol Gyfun Cwm Rhymni. Mae hi'n briod gyda dau o blant ac yn byw yn yr Alltwen, yng Nghwm Tawe. Mae Sioned yn rhugl yn y Gymraeg. Ar ôl graddio yn Llenyddiaeth Cymraeg a Saesneg o Brifysgol Aberystwyth, dyfarnwyd iddi Ysgoloriaeth T. Glynne Davies S4C i astudio ar gyfer diploma ôl-raddedig mewn Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

Roedd Sioned Williams yn uwch-newyddiadurwr gyda BBC Cymru cyn mynd i weithio i Brifysgol Abertawe fel Swyddog Polisi Iaith ac yna fel Rheolwr Cyfathrebu a Datblygu yn Academi Hywel Teifi. Fel rhan o’i gwaith yn y Brifysgol, bu’n helpu i sefydlu a chyd-reoli Tŷr Gwrhyd, canolfan Gymraeg Cwm Tawe a Nedd. Mae hi hefyd wedi gweithio i Blaid Cymru fel Pennaeth Cyfathrebu Strategol. Gweithiodd Sioned hefyd fel adolygydd a sylwebydd ar ddarlledu a'r celfyddydau ac mae wedi beirniadu Gwobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol a chystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Mae hi'n gyn-aelod o Fwrdd a chyn-Gadeirydd Panel Bwrsariaethau Llenyddiaeth Cymru.

Bu Sioned Williams yn Gynghorydd Cymuned dros yr Alltwen ac yn Gadeirydd Cyngor Cymuned Cilybebyll cyn cael ei hethol yn Aelod o’r Senedd dros Orllewin De Cymru yn Etholiad 2021. Yn ystod y Chweched Senedd, hi oedd llefarydd Cyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb Plaid Cymru ac roedd yn aelod o'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg . Roedd Sioned hefyd yn Gadeirydd y Grwpiau Trawsbleidiol ar Hawliau Dynol, Anableddau Dysgu a Thrais yn erbyn Menywod a Phlant.

Ar 13 Mai 2026 penodwyd Sioned Williams yn Ddirprwy Brif Weinidog a Gweinidog y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 08/05/2021 - 07/04/2026
  2. 08/05/2026 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Seneddau Blaenorol

Digwyddiadau calendr: Sioned Williams AS