Mae'r Rheolau Sefydlog yn ei gwneud yn ofynnol i Aelodau sy'n dymuno cael eu cynnwys yn y balot ar gyfer Bil Aelod gyflwyno gwybodaeth cyn y balot.

Bydd yr holl wybodaeth cyn y balot a gyflwynir yn cael ei chyhoeddi. Dim ond un cynnig ar gyfer unrhyw falot y caiff aelodau ei gyflwyno ond gallant ddiwygio neu newid eu cynnig ar unrhyw adeg rhwng balotau. Bydd y cynigion sydd wedi'u cynnwys yn y rhestr gyhoeddedig yn cael eu cynnwys ym mhob balot, oni bai bod yr Aelodau'n hysbysu swyddogion y Senedd yn wahanol.

Cynigion a Gyflwynwyd

Mae'r cynigion canlynol ar gyfer Bil Aelod wedi'u Cyflwyno yn ystod y Chweched Senedd a chânt eu cynnwys yn y balot nesaf:

 

Rhif y Cynnig Teitl y Bil Arfaethedig Aelod o'r Senedd
002 Bil Cofebion Milwrol (Cymru) Darren Millar AS
003 Bil Cyfamod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) Russell George AS
008 Bil Mynd i'r Afael â Digartrefedd (Cymru) Altaf Hussain AS
013 Bil Hawliau Pobl Hŷn (Cymru) Gareth Davies AS
015 Bil Asesiadau Gofal (Cymru) Rhys ab Owen AS
017 Bil Calonnau Cymru Alun Davies AS
020 Bil Datblygu Economaidd (Cymru) Tom Giffard AS
021 Bil Defnyddio Budd-daliadau (Cymru) Sioned Williams AS
027 Bil Cynllunion Morol (Cymru) Janet Finch-Saunders AS
028 Bil Chwaraeon a Chyfleusterau (Cymru) Laura Anne Jones AS
030 Bil Rheoleiddio Adeiladwyr (Cymru) Natasha Asghar AS
031 Bil Grymuso Cymunedau (Cymru) Jane Dodds AS
032 Bil Anaffylacsis mewn Ysgolion (Cymru) Andrew RT Davies AS
033 Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (Cymru) Mark Isherwood AS
035 Bil Darparu Cynhyrchion Mislif am Ddim (Cymru) Heledd Fychan AS
036 Bil Gwahardd Dichell (Senedd) Adam Price AS
037 Bil Adeiladu Cyfoeth Cymunedol (Cymru) Luke Fletcher AS

 

Mae'r cynigion canlynol ar gyfer Bil Aelod wedi'u dileu neu eu newid yr Aelod sy'n cynnig ers ei gyflwyno a'i gyhoeddi gyntaf. Ni fydd y rhain bellach yn cael eu cynnwys mewn balotau dilynol.

Rhif y Cynnig Teitl y Bil Arfaethedig Aelod o'r Senedd
001 Bil Diogelu Cofebion Rhyfel (Cymru) Paul Davies AS
004 Bil Dŵr Mewndirol (Cymru) Samuel Kurtz AS
005 Bil Dileu Gwastraff mewn Meddyginiaeth y GIG (Cymru) Natasha Asghar AS
006 Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) Mark Isherwood AS
007 Bil Llifogydd (Cymru) Janet Finch-Saunders AS
009 Bil Lles Anifeiliaid (Gwahardd maglau a thrapiau glud) (Cymru) Vikki Howells AS
010 Bil Carbon Glas (Cymru) Joyce Watson AS
011 Bil Diogelu Arian Dargadw Adeiladu (Cymru) Joel James AS
012 Bil Anifeiliaid Anwes mewn Tai (Cymru) Luke Fletcher AS
014 Bil Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) Laura Anne Jones AS
019 Bil Economi Gydweithredol a Pherchnogaeth Gweithwyr (Cymru) Huw Irranca-Davies AS
022 Bil Tai Cymunedol (Cymru) Mabon ap Gwynfor AS
023 Bil Asesiad Budd Cymunedol Rhun ap Iorwerth AS
024 Bil Troseddau Trapiau Glud (Cymru) Andrew RT Davies AS
025 Bil Tai Cymunedol (Cymru) Llyr Gruffydd AS
026 Bil Tai Cymunedol (Cymru) Peredur Owen Griffiths AS
034 Bil Ymchwiliadau Lles Anifeiliaid (Cymru) Samuel Kurtz AS

Mae'r cynigion canlynol ar gyfer Bil Aelod wedi bod yn llwyddiannus yn sgil pleidlais. Cewch weld eu cynnydd a'u datblygiad yma. Ni fydd y rhain, bellach, yn cael eu cynnwys mewn pleidleisiau dilynol.

Rhif y Cynnig Teitl y Bil Arfaethedig Aelod o'r Senedd
016 Bil Iechyd Meddwl (Cymru) James Evans AS
018 Bil Bwyd (Cymru) Peter Fox AS
029 Bil Addysg Awyr Agored (Cymru) Sam Rowlands AS