Cynnig 011 - Joel James AS

Cyhoeddwyd 20/09/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 20/09/2021   |   Amser darllen munudau

Mae'r canlynol yn gynnig ar gyfer Bil Aelod a gyflwynwyd yn ystod y Chweched Senedd:

Aelod sy'n Cynnig:

Joel James AS

Teitl y Bil Arfaethedig:

Bil Diogelu Arian Dargadw Adeiladu (Cymru)

Amcanion Polisi y Bil:

Deddf Senedd Cymru i ddarparu ar gyfer diogelu arian dargadw yn y diwydiant adeiladu yng Nghymru.

Nod y Bil hwn yw cefnogi busnesau bach a chanolig yn y diwydiant adeiladu yng Nghymru drwy sicrhau bod eu harian dargadw yn cael ei gadw'n ddiogel ac nad yw'n cael ei golli os yw cwmni o fewn y newid darparwr yn mynd i ansolfedd.

Bydd yr arian a gedwir mewn cynllun adneuo a gefnogir gan y llywodraeth yn parhau’n gyfreithiol i'r cwmnïau y mae wedi’i gadw yn ôl ohonynt, ond yn cael ei gadw fel sicrwydd ar gyfer perfformiad cytundebol.

Yn 2019 fe wnaeth Dawnus Construction, yr oedd eu trosiant yn ymwneud â gwaith sector cyhoeddus yn bennaf, fynd i ansolfedd. Collodd busnesau bach a chanolig yng nghadwyn gyflenwi Dawnus rhwng £2m a £3m o arian dargadw.

Nodau'r Bil

  1. Rhaid i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau a wneir gan offeryn statudol, wneud trefniadau ar gyfer sicrhau bod un neu fwy o gynlluniau adneuo ar gyfer arian dargadw ar gael at ddibenion diogelu unrhyw arian a gedwir yn ôl mewn cysylltiad â chontractau adeiladu.
  2. Bydd y Bil hwn yn gosod dyletswydd statudol ar bartïon sy'n cadw arian yn ôl o dan gontract adeiladu i'w osod mewn cynllun(iau) adneuo ar gyfer arian dargadw a awdurdodwyd gan Lywodraeth Cymru.
  3. Bydd methu â rhoi arian dargadw mewn cynllun yn golygu nad yw unrhyw hawl cytundebol i'w ddidynnu yn gymwys, a bydd yn rhaid ad-dalu unrhyw arian dargadw a gadwyd yn ôl yn llawn.