Cynnig 029 - Sam Rowlands AS

Cyhoeddwyd 11/07/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 25/07/2023   |   Amser darllen munudau

Mae'r cynig canlynol ar gyfer Bil Aelod wedi bod yn llwyddiannus yn sgil pleidlais ar 13 Gorffennaf 2022.

Ymweld Datblygu'r Bil Addysg Awyr Agored (Cymru)


Mae'r canlynol yn gynnig ar gyfer Bil Aelod a gyflwynwyd yn ystod y Chweched Senedd:

Aelod sy'n Cynnig:

Sam Rowlands AS

Teitl y Bil Arfaethedig:

Bil Addysg Awyr Agored (Cymru)

Amcanion Polisi y Bil:

Diben y bil hwn yw rhoi rhwymedigaeth statudol ar awdurdodau lleol i sicrhau y rhoddir cyfle i bobl ifanc gael profiad o addysg breswyl yn yr awyr agored.

Byddai'r Bil arfaethedig yn ceisio ei gwneud yn ddyletswydd statudol i ddarparu cyllid i ysgolion sy'n cael eu rhedeg gan awdurdodau lleol a rhai sy'n cael cymorth grant yng Nghymru er mwyn sicrhau y rhoddir cyfle i bobl ifanc gael o leiaf wythnos o addysg awyr agored breswyl rywbryd yn ystod eu blynyddoedd ysgol.

Y bwriad yw rhoi’r rhwymedigaeth statudol i sicrhau bod addysg awyr agored breswyl yn cael ei darparu ar y rhai sy'n gyfrifol am drefnu'r ddarpariaeth, e.e. awdurdodau addysg a rheolwyr ysgolion sy’n cael cymorth grant.