Cynnig 034 - Samuel Kurth AS

Cyhoeddwyd 12/07/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/07/2022   |   Amser darllen munudau

Mae'r canlynol yn gynnig ar gyfer Bil Aelod a gyflwynwyd yn ystod y Chweched Senedd:

Aelod sy'n Cynnig:

Samuel Kurtz AS

Teitl y Bil Arfaethedig:

Bil Ymchwiliadau Lles Anifeiliaid (Cymru)

Amcanion Polisi y Bil:

Diben y Bil yw sicrhau bod eglurder ynghylch rôl swyddogion yr RSPCA, yn enwedig wrth ymdrin â phartneriaid gorfodi eraill, gan leihau biwrocratiaeth a’r beichiau ar adnoddau cyrff statudol, a gwella effeithlonrwydd swyddogion rheng flaen yr RSPCA.

Byddai’r Bil hwn yn ceisio grymuso swyddogion rheng flaen yr RSPCA fel y gallant helpu anifeiliaid yn gynt. Byddai hefyd yn lleihau eu dibyniaeth ar gyrff statudol presennol, gan fod perygl y cânt eu llusgo i ffwrdd o weithgareddau rheng flaen eraill er mwyn cymryd camau sydd, gan fwyaf, yn rhai biwrocrataidd.