Cynnig 035 - Heledd Fychan AS

Cyhoeddwyd 06/09/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/10/2023   |   Amser darllen munudau

Mae'r canlynol yn gynnig ar gyfer Bil Aelod a gyflwynwyd yn ystod y Chweched Senedd:

Aelod sy'n Cynnig:

Heledd Fychan AS

Teitl y Bil Arfaethedig:

Bil Darparu Cynhyrchion Mislif am Ddim (Cymru)

Amcanion Polisi y Bil:

Diben y Bil hwn fyddai:

  1. Sicrhau bod pawb yng Nghymru sy’n cael mislif yn gallu cael mynediad rhesymol gyfleus at gynhyrchion mislif, yn rhad ac am ddim, yn ôl yr angen. Mae hyn yn cynnwys ymwelwyr â Chymru drwy gydol eu harhosiad.
  2. Rhoi'r pŵer i Lywodraeth Cymru sicrhau bod awdurdodau datganoledig Cymru yn darparu cynhyrchion mislif am ddim yn ôl y gyfraith.
  3. Sicrhau bod ysgolion, colegau a phrifysgolion yn cynnig amrywiaeth o gynhyrchion mislif am ddim yn eu toiledau gan gynnwys cynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio.
  4. Adeiladu ar y gwaith sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru a sicrhau bod y darpariaethau presennol yn cael eu hymgorffori yn y gyfraith.