Pobl y Senedd

Gareth Davies AS

Gareth Davies AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Ceidwadwyr Cymreig

Grŵp Plaid Ceidwadwyr Cymreig

Dyffryn Clwyd

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn mynd i'r afael â llygru tir preifat gyda charthffosiaeth oherwydd suddfan dŵr glaw tir cyhoeddus?

Wedi'i gyflwyno ar 24/07/2024

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn adfer tir sydd wedi'i lygru â charthffosiaeth sy'n peri risg i dda byw yng Nghymru?

Wedi'i gyflwyno ar 24/07/2024

A yw canllawiau newydd Llywodraeth Cymru a ddarperir i awdurdodau lleol ar derfynau cyflymder 20mya yn sicrhau gwell ymgynghoriad cyhoeddus ar briffyrdd a ystyrir ar gyfer esemptiad?

Wedi'i gyflwyno ar 18/07/2024

Pa fesurau tymor byr y mae yr Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd i leihau amseroedd aros ar gyfer diagnosis o ganser er mwyn cyrraedd targedau'r llwybr canser?

Wedi'i gyflwyno ar 18/07/2024

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Chyngor Sir Ddinbych ynghylch cyllid ar gyfer amddiffynfeydd rhag llifogydd?

Wedi'i gyflwyno ar 18/07/2024

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â digartrefedd ar arfordir Y Rhyl a Phrestatyn?

Wedi'i gyflwyno ar 18/07/2024

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Gareth Davies AS

Bywgraffiad

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Mae Gareth wedi ymrwymo i wella bywydau pobl sy'n byw yn Nyffryn Clwyd. Mae'n awyddus i wella mynediad at ofal iechyd ledled yr etholaeth a sicrhau bod cydraddoldeb rhwng iechyd corfforol ac iechyd meddwl. Mae Gareth yn eiriolwr cryf dros chwaraeon ar lawr gwlad ac mae'n credu bod chwaraeon tîm yn ffordd o fynd i'r afael â materion iechyd meddwl yn ogystal â'r argyfwng gordewdra sy’n wynebu ein cenedl.

Hanes personol

Mae Gareth wedi byw yn Nyffryn Clwyd ar hyd ei oes. Cafodd ei eni a'i fagu yn Llanelwy, yna symudodd i'r Rhyl, ac mae bellach yn byw ym Mhrestatyn gyda'i wraig a'u mab ifanc.

Cefndir proffesiynol

Ers dros ddegawd mae Gareth wedi gweithio i'r GIG, lle y byddai’n cefnogi pobl ag anghenion iechyd meddwl ac anableddau dysgu cyn iddo symud i faes ffisiotherapi.

Arall

Mae Gareth yn Gynghorydd Sir Ddinbych ac yn Gynghorydd Tref dros ward De-orllewin Prestatyn.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Gareth Davies AS