Cynnig 028 - Laura Anne Jones AS

Cyhoeddwyd 06/09/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/07/2022   |   Amser darllen munudau

Mae'r canlynol yn gynnig ar gyfer Bil Aelod a gyflwynwyd yn ystod y Chweched Senedd:

Aelod sy'n Cynnig:

Laura Anne Jones AS

Teitl y Bil Arfaethedig:

Bil Chwaraeon a Chyfleusterau (Cymru)

Amcanion Polisi y Bil:

Diben y Bil fyddai gwella ansawdd, nifer a mynediad at gyfleusterau chwaraeon ledled Cymru.

Byddai'r Bil hefyd yn anelu at:

  • Gydnabod y llu o fanteision chwaraeon ac ymarfer
    corff - o fynd i'r afael â gordewdra ymhlith plant a gwella iechyd meddwl, i ddod o hyd i sêr chwaraeon y dyfodol.
  • Ymrwymo Llywodraeth Cymru i gyfle cyfartal a mynediad at gyfleusterau ledled Cymru.
  • Ymrwymo Llywodraeth Cymru i glustnodi cyllid a buddsoddi’n helaeth mewn cyfleusterau chwaraeon newydd a rhai sy’n cael eu diweddaru ar draws pob rhanbarth o Gymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig ac yn arbennig cyfleusterau pob tywydd fel caeau 3G.
  • Creu pwyllgor cynghori Holl-Chwaraeon, i gynyddu cydweithrediad rhwng chwaraeon er mwyn gwneud y defnydd mwyaf posibl o gyfleusterau presennol ac yn y dyfodol, a chynyddu cyfranogiad.
  • Sicrhau cyfleusterau o safon cystadleuaeth ryngwladol yng ngogledd Cymru.