Cynnig 015 - Rhys ab Owen AS

Cyhoeddwyd 20/09/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 20/09/2021   |   Amser darllen munudau

Mae'r canlynol yn gynnig ar gyfer Bil Aelod a gyflwynwyd yn ystod y Chweched Senedd:

Aelod sy'n Cynnig:

Rhys ab Owen AS

Teitl y Bil Arfaethedig:

Bil Asesiadau Gofal (Cymru)

Amcanion Polisi y Bil:

Bydd y Bil yn diwygio'r broses asesiadau gofal, er mwyn canolbwyntio ar yr angen am ofal personol.

Cafwyd cefnogaeth i wneud gwelliannau i’r broses asesiadau gofal gan elusennau fel y Gymdeithas Alzheimer.

Ymgynghoriad:

Bu Comisiwn Gofal Plaid Cymru yn adolygu’r sector gofal cyfan ers mis Gorffennaf 2018, ac mae 29 o siaradwyr wedi darparu tystiolaeth a 34 o ddogfennau ysgrifenedig wedi dod i law. Roedd hyn yn cynnwys adolygiad o'r broses asesiadau gofal.

Yn ystod haf 2021 bu'r Aelod (Rhys ab Owen AS) yn trafod gydag etholwyr, Aelodau etholedig eraill, elusennau a chyrff proffesiynol bod angen diwygio.