Cynnig 007 - Janet Finch-Saunders AS

Cyhoeddwyd 20/09/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 20/09/2021   |   Amser darllen munudau

Mae'r canlynol yn gynnig ar gyfer Bil Aelod a gyflwynwyd yn ystod y Chweched Senedd:

Aelod sy'n Cynnig:

Janet Finch-Saunders AS

Teitl y Bil Arfaethedig:

Bil Llifogydd (Cymru)

Amcanion Polisi y Bil:

Nod y Bil yw dangos bod Cymru yn cydnabod bod yr Argyfwng Hinsawdd yn gwaethygu llifogydd, ac o'r herwydd bod angen newid deddfwriaethol i gryfhau'r ymateb cenedlaethol i achosion o lifogydd. Bydd y Bil hefyd yn ymateb i'r galw gan gymunedau yng Nghymru am ymchwiliadau annibynnol i achosion o lifogydd sylweddol.

Diben y Bil hwn fyddai:

  1. Sefydlu Asiantaeth Lifogydd Genedlaethol, fel un corff sy'n ymroddedig i fynd i'r afael â llifogydd, a fydd yn cydgysylltu’r broses o reoli risg llifogydd a'r ymateb i achosion o lifogydd.
  2. Creu dyletswydd i Lywodraeth Cymru hwyluso ymchwiliadau annibynnol i achosion o lifogydd sylweddol.
  3. Gosod terfynau amser statudol ar gyhoeddi adroddiadau ymchwilio i lifogydd, a mynd i’r afael â’r ffaith bod gan y prif awdurdodau llifogydd lleol yng Nghymru, o dan Adran 19 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, amser diderfyn i ymchwilio, paratoi a chyhoeddi adroddiadau ymchwilio i lifogydd o’r amser y maent yn dod yn ymwybodol o lifogydd yn eu hardal.
  4. Sefydlu cronfa barhaol fel bod cyllid ar gael ar unwaith i fynd drwy gam glanhau cychwynnol unrhyw achos o lifogydd, a sicrhau bod cyllid bob amser yn hygyrch i gynorthwyo preswylwyr heb yswiriant gyda chost y glanhau cychwynnol ar ôl achos o lifogydd.
  5. Gosod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau rhesymol i amddiffyn safleoedd o arwyddocâd hanesyddol a chenedlaethol rhag llifogydd.
  6. Sicrhau bod ymgyrch barhaus i wella ymwybyddiaeth perchnogion glannau afon o'u cyfrifoldebau, a chreu system gymorth sy'n nodi ac yn cynorthwyo perchnogion glannau afon nad ydynt yn cyflawni eu cyfrifoldebau.