Caiff grwpiau o ymwelwyr (gyda rhifau i fyny i 40 mewn maint) sydd wedi archebu ymlaen llaw eu croesawu yn y Senedd ac yna cânt eu tywys o amgylch yr adeilad unigryw a hynod hwn gan Dywysydd. Mae hefyd yn bosibl cyfarfod ac eich Aelodau o’r Senedd etholedig, os gwneir cais ymlaen llaw a chyn belled â’u bod ar gael.
Ar ddyddiau busnes (dydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau), caiff ymwelwyr weld y Neuadd, yr Oriel, Oriel y Pwyllgorau ac Oriel y Siambr. Mae’r cyflwyniad yn canolbwyntio ar nodweddion cynaliadwy’r adeilad yn ogystal â sut mae’r Senedd yn gweithio ac maent yn parhau am tua awr. Nid yw'r teithiau hyn o reidrwydd yn cynnwys sedd i wylio sesiwn Cyfarfod Llawn na chyfarfodydd Pwyllgor. Os oes angen seddi arnoch, dylech eu harchebu ar wahân, a gellir gwneud hyn hyd at dair wythnos ymlaen llaw.
Mae Siop y Senedd ym Mae Caerdydd yn cynnig dewis o nwyddau a rhoddion o Gymru â brand y Senedd arnynt i ymwelwyr.
Archebwch Daith Grŵp Medi i Rhagfyr 2023 >