Cynnig 017 - Alun Davies AS

Cyhoeddwyd 20/09/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 20/09/2021   |   Amser darllen munudau

Mae'r canlynol yn gynnig ar gyfer Bil Aelod a gyflwynwyd yn ystod y Chweched Senedd:

Aelod sy'n Cynnig:

Alun Davies AS

Teitl y Bil Arfaethedig:

Bil Calonnau Cymru

Amcanion Polisi y Bil:

Bil i safoni ac ehangu mynediad at offer a gweithdrefnau dadebru, ynghyd â hyfforddiant ar eu cyfer, at ddibenion gwella canlyniadau cleifion a lleihau marwolaethau ledled Cymru o ganlyniad i ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty.

Rhoi rhwymedigaethau statudol ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu, cydgysylltu a gweithredu strategaeth genedlaethol a llwybrau rhanbarthol i roi gwelliannau o'r fath ar waith.

I gynnwys y seiliau a ganlyn:

  1. Rhwymedigaeth statudol i awdurdodau lleol sicrhau bod diffibrilwyr mynediad cyhoeddus yn cael eu gosod a'u cynnal mewn niferoedd digonol gan ystyried daearyddiaeth a phoblogaeth ardaloedd – i'w benderfynu mewn ymgynghoriad â byrddau iechyd lleol.
  2. Gofyniad i awdurdodau addysg lleol gyd-ddatblygu hyfforddiant ar ddefnyddio diffibrilwyr ac ymwybyddiaeth o’u hargaeledd gyda i) byrddau iechyd prifysgol lleol ii) awdurdodau lleol a iii) sefydliadau cymorth cyntaf gwirfoddol.
  3. Dyletswydd ar y Gweinidog Iechyd i sicrhau bod ystadegau'n cael eu casglu'n rheolaidd ynghylch marwolaeth sydyn y galon, cyfanswm nifer yr achosion o ataliad y galon a ffigurau goroesi cysylltiedig, a chyhoeddi diweddariad i'r Senedd ar y cynnydd a wnaed tuag at gyflawni'r rhwymedigaethau a nodwyd yma o leiaf unwaith bob tymor tra bo'r Senedd yn eistedd.