Cynnig 033 - Mark Isherwood AS

Cyhoeddwyd 12/07/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/07/2022   |   Amser darllen munudau

Mae'r canlynol yn gynnig ar gyfer Bil Aelod a gyflwynwyd yn ystod y Chweched Senedd:

Aelod sy'n Cynnig:

Mark Isherwood AS

Teitl y Bil Arfaethedig:

Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL) (Cymru)

Amcanion Polisi y Bil:

Byddai’r Bil yn gwneud darpariaeth i hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o Iaith Arwyddion Prydain (BSL) a’i ffurfiau cyffyrddol yng Nghymru, a gwella mynediad at addysg, iechyd a gwasanaethau cyhoeddus drwy gyfrwng BSL.

Diben y Bil fyddai dileu’r rhwystrau sy’n wynebu pobl fyddar a’u teuluoedd ym maes addysg, iechyd, gwasanaethau cyhoeddus, gwasanaethau cymorth ac yn y gweithle.

Byddai’r Bil yn cryfhau saith nod llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, fel y maent yn berthnasol i BSL, pan fo cyrff cyhoeddus yn ystyried anghenion hirdymor defnyddwyr BSL o bob oed. Byddai hyn yn cefnogi ymrwymiadau cyfredol, gan gynnwys Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a'r Confensiwn ar Hawliau Pobl ag Anableddau.

Byddai'r Bil hefyd yn ceisio:

Gweithio tuag at sicrhau nad yw pobl fyddar sy'n defnyddio BSL yn cael eu trin yn llai ffafriol na'r rhai sy'n siarad Cymraeg neu Saesneg.

Sicrhau bod gan gymunedau byddar lais yn y broses o gynllunio a darparu
gwasanaethau, a hynny er mwyn sicrhau eu bod yn diwallu eu hanghenion.

Sefydlu Comisiynydd BSL a fydd yn:

  • Creu safonau BSL.
  • Sefydlu Panel Cynghori ar Faterion BSL.
  • Cynhyrchu adroddiadau bob 5 mlynedd ar y sefyllfa o ran BSL yn ystod y cyfnod hwnnw, a hynny ar ffurf BSL, ac yng Nghymraeg a Saesneg.
  • Darparu canllawiau a phroses i alluogi cyrff cyhoeddus i hyrwyddo a hwyluso BSL yn eu priod feysydd.
  • Creu trefniant ar gyfer ymchwilio i gwynion.

Gosod gofyniad ar gyrff cyhoeddus i adrodd ar y cynnydd a wneir ganddynt o ran hyrwyddo a hwyluso BSL drwy eu cylch adrodd ar gyfer Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gosod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i baratoi a chyhoeddi adroddiad BSL blynyddol yn disgrifio’r hyn y mae adrannau Llywodraeth Cymru wedi’i wneud i hyrwyddo’r defnydd o BSL.