Cynnig 030 - Natasha Asghar AS

Cyhoeddwyd 06/09/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/07/2022   |   Amser darllen munudau

Mae'r canlynol yn gynnig ar gyfer Bil Aelod a gyflwynwyd yn ystod y Chweched Senedd:

Aelod sy'n Cynnig:

Natasha Asghar AS

Teitl y Bil Arfaethedig:

Bil Rheoleiddio Adeiladwyr (Cymru)

Amcanion Polisi y Bil:

Mae i’r Bil yr amcanion polisi a ganlyn:

  1. Sefydlu cofrestr o adeiladwyr cymeradwy fel nad yw pobl yng Nghymru yn cael eu twyllo pan fyddant yn gwneud gwaith adeiladu ar eu heiddo.
  2. Galluogi aelodau o'r cyhoedd i weld a yw cymwysterau eu hadeiladwyr yn bodloni’r cod a’r safon reoleiddiol ar gyfer y gwaith y maent yn dymuno ei gyflawni.
  3. Atal aelodau o'r cyhoedd rhag gwario eu harian/cynilion haeddiannol yn talu am waith ar eu cartrefi dim ond i’r gwaith hwnnw fod yn anorffenedig, cael ei wrthod gan yr adran rheoli adeiladu neu fethu â chyrraedd y safonau gofynnol heb fod unrhyw ôl-effeithiau i'r adeiladwyr oni bai bod perchennog y tŷ yn eu herio yn y llys.

Gwybodaeth ategol

Mae llawer o drigolion ledled Cymru, yn enwedig y rhai sy'n agored i niwed a'r henoed, yn dioddef wrth law adeiladwyr anghofrestredig a masnachwyr twyllodrus.

Mae’r dioddefwyr ar eu colled yn ariannol, ond mae hefyd yn cael effaith feddyliol ac emosiynol barhaol arnynt.

Mae masnachwyr twyllodrus ac adeiladwyr anghofrestredig hefyd yn rhoi enw drwg i fasnachwyr gonest a dibynadwy oherwydd, ar ôl cael profiad gwael, bydd llawer o bobl o’r farn bod pob masnachwr cynddrwg a’i gilydd.

Dangosodd gwaith ymchwil a gynhaliwyd gan Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr fod economi'r DU yn colli gwerth £10 biliwn o weithgarwch y flwyddyn oherwydd pryder ynghylch adeiladwyr anghofrestredig.

Canfu hefyd fod traean o berchnogion cartrefi yn gohirio gwneud gwaith mawr i wella eu cartrefi am fod arnynt ofn y byddant yn llogi adeiladwr annibynadwy.

Dylai pobl fod yn gallu llogi adeiladwyr heb ofni cael eu twyllo gan adeiladwyr anghofrestredig a cholli eu harian haeddiannol.

Mae angen i ni wneud popeth y gallwn i amddiffyn pobl rhag cael eu twyllo gan adeiladwyr twyllodrus.

Dyna pam rwyf am weld Llywodraeth Cymru yn creu cofrestr o adeiladwyr cymeradwy y gellir ymddiried ynddynt i helpu i hybu hyder defnyddwyr.

Byddai'n rhaid i adeiladwyr fodloni meini prawf penodol cyn cael eu hychwanegu at y gofrestr, megis tystlythyrau a chymwysterau.