Cynnig 041 - Tom Giffard AS

Cyhoeddwyd 19/04/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 19/04/2024   |   Amser darllen munudau

Mae'r canlynol yn gynnig ar gyfer Bil Aelod a gyflwynwyd yn ystod y Chweched Senedd:

Aelod sy'n Cynnig:

Tom Giffard AS

Teitl y Bil Arfaethedig:

Bil Croeso Cymru Annibynnol

Amcanion Polisi y Bil:

Gwneud Croeso Cymru yn gorff annibynnol fel y mae 'Visit Britain' a 'Visit Scotland';

Caniatáu i Croeso Cymru gael ei redeg gan arbenigwyr twristiaeth i greu pwynt gwerthu unigryw i Gymru a chynyddu cynrychiolaeth y sector yn llawnach;

Newid Croeso Cymru o fod yn gorff hyd braich i fod yn gorff annibynnol y gall Llywodraeth Cymru ei annog, yn hytrach na bod rhaid iddo lynu’n gaeth at bolisïau twristiaeth Llywodraeth Cymru;

Annog Croeso Cymru i ganolbwyntio ar y ffordd orau o fanteisio ar ddiwylliant ffilm a theledu Cymru a digwyddiadau mawr yng Nghymru a’r ffordd orau o ledaenu’r digwyddiadau hynny ledled Cymru;

Caniatáu i Croeso Cymru annibynnol allu cydweithio â chyrff twristiaeth eraill, yn annibynnol ar gyfarwyddyd y Llywodraeth.