Cynnig 003 - Russell George AS

Cyhoeddwyd 13/09/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 20/09/2021   |   Amser darllen munudau

Mae'r canlynol yn gynnig ar gyfer Bil Aelod a gyflwynwyd yn ystod y Chweched Senedd:

Aelod sy'n Cynnig:

Russell George AS

Teitl y Bil Arfaethedig:

Bil Cyfamod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru)

Amcanion Polisi y Bil:

Anrhydeddu staff gweithgar GIG Cymru trwy Gyfamod y GIG a fydd yn gwarantu bod y GIG yn aros mewn dwylo cyhoeddus ac ar gael i’w ddefnyddio yn rhad ac am ddim; gwarantu mwy o fuddsoddiad i GIG Cymru; gwarantu y bydd staff y GIG yn cael tâl fel yr argymhellir gan Gorff annibynnol Adolygu Cyflogau’r GIG; gwella llesiant staff y GIG gydag oriau gwaith mwy hyblyg, mwy o wyliau, mwy o fynediad at ofal plant a chymorth iechyd meddwl; ac anelu at ddileu camdriniaeth o staff y GIG.