Cynnig 020 - Tom Giffard AS

Cyhoeddwyd 20/09/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 20/09/2021   |   Amser darllen munudau

Mae'r canlynol yn gynnig ar gyfer Bil Aelod a gyflwynwyd yn ystod y Chweched Senedd:

Aelod sy'n Cynnig:

Tom Giffard AS

Teitl y Bil Arfaethedig:

Bil Datblygu Economaidd (Cymru)

Amcanion Polisi y Bil:

Pwrpas y Bil fyddai diweddaru a datblygu'r fframwaith deddfwriaethol sy'n sail i ddatblygu economaidd yng Nghymru, a hynny er mwyn ysgogi twf economaidd a ffyniant i gymunedau a busnesau Cymru.

Byddai'r Bil hefyd yn anelu at:

  • Sefydlu strategaeth economaidd hirdymor i Gymru ddatblygu fframwaith clir ar gyfer twf;
  • Egluro rolau a dyletswyddau sefydliadau datblygu economaidd yng Nghymru i roi sicrwydd i fusnesau;
  • Sefydlu asiantaeth datblygu economaidd hyd braich newydd i gydlynu datblygu economaidd a chymorth busnes;
  • Rhoi Banc Datblygu Cymru ar sail statudol i sicrhau ei annibyniaeth ar Lywodraeth Cymru, a'i alluogi i ddarparu cymorth busnes tymor hwy;
  • Egluro a chryfhau dyletswyddau datblygu economaidd presennol sydd wedi'u gosod ar rai cyrff cyhoeddus i sicrhau dull mwy cydgysylltiedig mewn perthynas â datblygu economaidd cynaliadwy; a
  • Rhoi dyletswydd ar Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol i ystyried ac adolygu bygythiadau i economi Cymru yn y dyfodol, a sicrhau bod cyrff cyhoeddus wedi cael eu paratoi'n ddigonol i addasu ac ymateb i sioc economaidd yn y dyfodol.