Cynnig 013 - Gareth Davies AS

Cyhoeddwyd 20/09/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 20/09/2021   |   Amser darllen munudau

Mae'r canlynol yn gynnig ar gyfer Bil Aelod a gyflwynwyd yn ystod y Chweched Senedd:

Aelod sy'n Cynnig:

Gareth Davies AS

Teitl y Bil Arfaethedig:

Bil Hawliau Pobl Hŷn (Cymru)

Amcanion Polisi y Bil:

Bydd y Bil yn:

  1. gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw dyledus i Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn wrth wneud penderfyniadau a all effeithio ar bobl hŷn yng Nghymru;
  2. ymestyn y ddyletswydd o ran sylw dyledus i awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol ac awdurdodau cyhoeddus eraill yng Nghymru;
  3. gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i hyrwyddo gwybodaeth am Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn a dealltwriaeth ohonynt ymhlith pobl hŷn ac awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru;
  4. gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i sefydlu cynllun hawliau pobl hŷn;
  5. ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Comisiynydd Pobl Hŷn, pobl hŷn a rhanddeiliaid perthnasol eraill cyn gwneud neu ddiwygio'r cynllun hawliau pobl hŷn; a
  6. gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi canllawiau i awdurdodau cyhoeddus Cymru.