Cynnig 001 - Paul Davies AS

Cyhoeddwyd 13/09/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 20/09/2021   |   Amser darllen munudau

Mae'r canlynol yn gynnig ar gyfer Bil Aelod a gyflwynwyd yn ystod y Chweched Senedd:

Aelod sy'n Cynnig:

Paul Davies AS

Teitl y Bil Arfaethedig:

Bil Diogelu Cofebion Rhyfel (Cymru)

Amcanion Polisi y Bil:

Nod y Bil yw:

  1. Sicrhau bod awdurdodau lleol yn cadw ac yn diweddaru rhestr o gofebion rhyfel ledled Cymru, fel bod gennym ddata ar gofnod sy'n rhoi manylion am nifer yr holl gofebion rhyfel yng Nghymru a’u lleoliadau.
  2. Rhoi dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i sicrhau bod cofebion rhyfel yn cael eu cynnal a'u cadw yn eu hardaloedd. Byddai hyn yn golygu sicrhau bod gan bob cofeb geidwad a oedd yn gyfrifol am gynnal y gofeb. Byddai'r ceidwad (neu'r swyddog cofebion rhyfel) yn:
  • sefydlu pwynt cyswllt ar gyfer y cyhoedd,
  • datblygu partneriaethau â grwpiau a sefydliadau cymunedol lleol sydd eisoes wedi sefydlu lefel o gyfrifoldeb am rai cofebion yn yr ardal, a
  • meithrin cysylltiadau ag ysgolion lleol i addysgu plant a phobl ifanc am bwysigrwydd cofebion rhyfel ac i adrodd hanesion yr aberth mawr a wnaed ar ein rhan.