Cynnig 040 - Delyth Jewell AS

Cyhoeddwyd 19/04/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 19/04/2024   |   Amser darllen munudau

Mae'r canlynol yn gynnig ar gyfer Bil Aelod a gyflwynwyd yn ystod y Chweched Senedd:

Aelod sy'n Cynnig:

Delyth Jewell AS

Teitl y Bil Arfaethedig:

Bil Cryfhau Llais a Galluedd Menywod yn eu Gofal Iechyd eu Hunain (Cymru)

Amcanion Polisi y Bil:

Gwrthsefyll normaleiddio poen menywod (yn gorfforol ac yn emosiynol) yn eu gofal iechyd, yn ogystal â'r disgwyliad bod poen yn agwedd anffodus ar iechyd menywod, ond yn un na ellir ei hosgoi, drwy ymgynghori â gynaecolegwyr, bydwragedd a grwpiau iechyd menywod gyda'r nod o sicrhau bod llai o sefyllfaoedd lle y mae poen yn ddisgwyliedig ac yn cael ei dderbyn fel rhywbeth normal yng ngofal iechyd y GIG.

Cryfhau'r disgwyliadau ar gyfer gwasanaethau'r GIG yn y Datganiad Ansawdd ar gyfer Iechyd Menywod a Merched.

Sefydlu gofyniad cyfreithiol i ddarparwyr gofal iechyd gasglu adborth yn rheolaidd gan gleifion benywaidd am eu profiadau a’u bodlonrwydd â’r gofal a gânt, yn enwedig mewn perthynas ag apwyntiadau gynaecolegol, bydwreigiaeth, ôl-enedigaeth, gan gynnwys iechyd meddwl amenedigol a’r cyfnod yn ystod ac ar ôl y menopos.

Gosod rhwymedigaethau statudol ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu, cydgysylltu a gweithredu’r Cynllun Iechyd Menywod a ddatblygwyd gan GIG Cymru, drwy ymgynghori â gynaecolegwyr, bydwragedd a grwpiau iechyd menywod.