Cynnig 026 - Peredur Owen Griffiths AS

Cyhoeddwyd 20/09/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 20/09/2021   |   Amser darllen munudau

Mae'r canlynol yn gynnig ar gyfer Bil Aelod a gyflwynwyd yn ystod y Chweched Senedd:

Aelod sy'n Cynnig:

Peredur Owen Griffiths AS

Teitl y Bil Arfaethedig:

Bil Tai Cymunedol (Cymru)

Amcanion Polisi y Bil:

Bydd y Bil yn darparu ar gyfer deddfwriaeth a fydd yn:

Sicrhau cydbwysedd sy’n ffafrio trigolion lleol yn y farchnad dai, (e.e. anheddau, preswylfeydd, a thir nas datblygwyd a ddyrannwyd ar gyfer tai) mewn cymunedau lle mae canran o'r boblogaeth leol yn cael ei phrisio allan o'r farchnad dai leol.

Grymuso awdurdodau lleol a chymunedau lleol (trwy'r cynghorau cymuned, y cynghorau tref a’r cynghorau dinas) i benderfynu ar drothwy’r ganran honno ar gyfer eu hardaloedd, a sut orau i roi'r ddeddfwriaeth ar waith.

Atal y twf yn nifer yr ail breswylfeydd, mewn ardaloedd a nodwyd gan awdurdodau lleol ar y cyd â chymunedau, gan bobl nad ydynt ond yn defnyddio’r preswylfeydd hynny am gyfnod byr iawn o'r flwyddyn ("gwelyau gwag").