Cynnig 006 - Mark Isherwood AS

Cyhoeddwyd 13/09/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 20/09/2021   |   Amser darllen munudau

Mae'r canlynol yn gynnig ar gyfer Bil Aelod a gyflwynwyd yn ystod y Chweched Senedd:

Aelod sy'n Cynnig:

Mark Isherwood AS

Teitl y Bil Arfaethedig:

Bil Iaith Arwyddion Prydain (BSL)

Amcanion Polisi y Bil:

Byddai’r Bil yn gwneud darpariaeth i annog y defnydd o Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yng Nghymru, a gwella mynediad at addysg a gwasanaethau drwy gyfrwng BSL.

Diben y Bil fyddai mynd i'r afael â'r rhwystrau o ran cynhwysiant yn unol â'r model cymdeithasol o anabledd.

Byddai'r Bil hefyd yn anelu at:

  • sicrhau bod gan y gymuned fyddar a phobl sy’n colli eu clyw lais yn y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion defnyddwyr gwasanaethau;
  • sefydlu grŵp cynghori cenedlaethol BSL i rymuso'r gymuned BSL yng Nghymru;
  • ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gyd-gynhyrchu a chyhoeddi cynllun BSL cenedlaethol, sefydlu nodau strategol i wella hygyrchedd gwasanaethau cyhoeddus a gwasanaethau cymorth a gwella sgiliau BSL ar draws y gymdeithas; ac archwilio ei gallu i ddarparu gwasanaethau ar gyfer defnyddwyr BSL nawr ac yn y dyfodol a sefydlu gwaith cynllunio angenrheidiol y gweithlu; ac
  • ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gyd-gynhyrchu a chyhoeddi eu cynllun BSL eu hunain i ddatblygu ymwybyddiaeth a hyfforddiant BSL, a gwella mynediad at wasanaethau rheng flaen.