Cynnig 004 - Samuel Kurtz AS

Cyhoeddwyd 13/09/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 20/09/2021   |   Amser darllen munudau

Mae'r canlynol yn gynnig ar gyfer Bil Aelod a gyflwynwyd yn ystod y Chweched Senedd:

Aelod sy'n Cynnig:

Samuel Kurtz AS

Teitl y Bil Arfaethedig:

Bil Dŵr Mewndirol (Cymru)

Amcanion Polisi y Bil:

Darparu ar gyfer gwella ansawdd dŵr ymdrochi mewndirol, gan gynnwys gosod dyletswyddau ar gwmnïau dŵr i gymryd yr holl gamau rhesymol i sicrhau nad yw carthffosiaeth heb ei drin yn cael ei ollwng i ddŵr mewndirol a gosod targedau statudol i gynyddu nifer y dyfroedd ymdrochi mewndirol sy'n cael eu dosbarthu fel rhai “da” neu “rhagorol”.