Prif
ddiddordebau a chyflawniadau
Mae Sarah yn
ymroddedig i hawliau digidol a democratiaeth, a datblygu polisïau amgylcheddol
ar gyfer Cymru wyrddach. Cyn cael ei
hethol, roedd Sarah yn Gadeirydd Cymru Gynaliadwy, elusen ym Mhorthcawl sy'n
cefnogi datblygiad cynaliadwy yn y gymuned. Yn 2020, creodd y gyfres weminar
“Circular Economy: A Design For Life" yr aeth arbenigwyr blaenllaw o bob
rhan o Gymru a'r DU iddi. Ym mis Mawrth 2020, sefydlodd Murphy Grŵp Cymorth Coronafeirws Pen-y-bont ar Ogwr
sydd ag oddeutu 12,000 o aelodau ac sydd wedi codi arian ar gyfer Banc Bwyd
Pen-y-bont ar Ogwr a Splice Child and Family yn y Pîl.
Hanes personol
Mae Murphy yn byw
ym Mhen-y-bont ar Ogwr gyda'i phartner.
Cefndir
proffesiynol
Ar ôl graddio,
symudodd Sarah i Seoul, De Corea i addysgu Saesneg. Mae wedi gweithio yn
Llundain i gwmni datblygu eiddo byd-eang. Yn 2016, graddiodd o'r Ysgol
Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Caerdydd gyda
Rhagoriaeth MA mewn Cyfryngau Digidol a Chymdeithas. Dyfarnwyd ysgoloriaeth i
Sarah gan Brifysgol Caerdydd a grant gan Leathersellers’ Company Charitable
Fund i ymgymryd â’i hefrydiau. Rhwng
2019 a 2021, bu Sarah yn canolbwyntio ar ei hymchwil lles cymdeithasol a data
mawr, yn bennaf ar gyfer y Labordy Cyfiawnder Data ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae'n ymchwilio i ddefnydd llywodraethau'r DU a rhyngwladol o ddata mawr a dull
dylunio algorithmig ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus – gyda ffocws ar nodi
drygau data posibl a gwahaniaethu yn erbyn plant a theuluoedd. Ymchwiliodd ei
phrosiect ymchwil diweddaraf i wyliadwriaeth yn y gweithle sy’n seiliedig ar
ddata.
Hanes
gwleidyddol
Sarah Murphy oedd
Pennaeth Digwyddiadau Llafur Cymru rhwng 2009 a 2012. Yn 2017, fel Dadansoddwr Ymchwil Lee Waters
AC, datblygodd a gweithredodd y llwyfan cyfrannu torfol ar-lein, ffynhonnell
agored cyntaf ar gyfer Aelod Cynulliad yng Nghymru. Yn dilyn Etholiad
Cyffredinol 2017, cafodd ei phenodi’n Uwch-reolwr Cyfathrebu i Anna McMorrin
AS, ac yna’n Uwch-gynghorydd i Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol Cymru. Etholwyd Sarah yn Aelod o’r Senedd Llafur
Cymru dros etholaeth Pen-y-bont ar Ogwr yn etholiad 2021 gyda mwyafrif o 4,064.
Hi yw'r unig fenyw i ennill sedd yn ystod yr etholiad hwn a ddaliwyd yn
flaenorol gan ddyn, gan gymryd lle cyn-Brif Weinidog Carwyn Jones a
benderfynodd beidio â sefyll ailetholiad.
Asedau’r Cyfryngau