Roed Julie James yn Aelod o’r Senedd rhwng Mai 2011 ac Ebrill 2026. Hwn
oedd ei bywgraffiad pan fu adael.
Prif ddiddordebau a chyflawniadau
Mae Julie yn ymgyrchydd ymroddedig dros faterion gwyrdd, yn amgylcheddwr ac
yn nofiwr a sgïwr brwd. Mae Julie hefyd yn aelod o gorff Unsain ac yn aelod o
Gray's Inn.
Hanes personol
Ganwyd Julie yn Abertawe, ond treuliodd rannau sylweddol o'i hieuenctid
mewn gwledydd eraill ledled y byd, yn byw gyda'i theulu. Treuliodd Julie
dyddiau cynnar ei gyrfa yn Llundain, cyn symud yn ôl i Abertawe gyda'i gŵr i fagu eu tri phlentyn ac i fod yn
agosach at ei theulu.
Cefndir proffesiynol
Hyd nes iddi gael ei hethol yn Aelod Cynulliad dros Orllewin Abertawe,
roedd Julie yn gyfreithiwr blaenllaw ar faterion amgylcheddol a
chyfansoddiadol. Cyn hynny, bu'n brif weithredwr cynorthwyol yng Nghyngor
Abertawe. Treuliodd y rhan fwyaf o'i gyrfa gyfreithiol mewn llywodraeth leol.
Roedd yn gyfreithiwr polisi ym Mwrdeistref Camden yn Llundain cyn dychwelyd i
Abertawe i weithio yng Nghyngor Sir Gorllewin Morgannwg ac yna yng Nghyngor
Dinas a Sir Abertawe.
Hanes gwleidyddol
Ymunodd Julie y Blaid Lafur yn y brifysgol. Roedd yn aelod gweithgar tan
iddi gymryd swyddi â chyfyngiadau gwleidyddol ynghlwm wrthynt mewn nifer o
gynghorau.