Croeso i wefan newydd y Senedd. Os ydych yn cael anhawster defnyddio'r wefan hon, cysylltwch a ni.
Amserlen ar gyfer cwestiynau llafar
Cyhoeddwyd 24/09/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 24/09/2020   |   Amser darllen munudau
Caiff Cwestiynau Llafar eu cyflwyno bob wythnos i'r Prif Weinidog eu hateb ar lafar yn y Cyfarfod Llawn a phob pedair wythnos i bob un o Weinidogion Cymru, y Cwnsler Cyffredinol a Chomisiwn y Senedd.
Amserlen ar gyfer cwestiynau llafar
Swyddog | Dyddiadau |
---|---|
Y Prif Weinidog | Bob dydd Mawrth yn ystod tymor y Senedd, rhwng 13.30 a 14.15, am 45 munud ar y mwyaf, ar wahân i unwaith bob pedair wythnos lle caiff yr eitem ei threfnu am 60 munud a bydd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip yn ateb cwestiynau am 15 munud olaf y sesiwn hon ar faterion sy’n ymwneud â’i chyfrifoldebau. |
Gweinidogion Cymru | Bob dydd Mercher yn ystod tymor y Senedd, rhwng 13.30 a 15.00, am 45 munud yr un ar y mwyaf. Bydd Gweinidogion yn cael eu holi yn eu tro. Mae hyn yn cynnwys y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd mewn perthynas â’i gyfrifoldebau fel Gweinidog Pontio Ewropeaidd. |
Y Cwnsler Cyffredinol | Unwaith bob pedair wythnos ar ddydd Mawrth am 30 munud ar y mwyaf, mewn perthynas â’i gyfrifoldebau fel swyddog y gyfraith. |
Comisiwn y Senedd | Unwaith bob pedair wythnos ar ddydd Mercher am 30 munud ar y mwyaf, yn dechrau ar 29 Mehefin 2016. |