Mantell o Flodau Pabi Cricieth
Yn 2020, cafodd llawer o ddigwyddiadau Dydd y Cofio eu canslo oherwydd Covid-19. Yn hytrach, daeth trigolion yng Nghricieth, Gwynedd, at ei gilydd i greu mantell o flodau pabi a gafodd ei harddangos fel rhan o arddangosfa i nodi Dydd y Cofio. Bydd y fantell yn cael ei harddangos yn y Senedd fis Tachwedd eleni fel rhan o ddigwyddiadau Dydd y Cofio 2022. Noddir gan Eluned Morgan AS. Dyddiadau: 2 – 29 Tachwedd.