CÂN Y COED Symffoni’r Coedwigoedd Glaw

Cyhoeddwyd 08/06/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/02/2024   |   Amser darllen munudau

Cheryl Beer a Choedwigoedd Glaw Cymru

Noddir gan Lee Waters AS

Dyddiadau: 21 Mehefin – 2 Gorffennaf

Lleoliad: Neuadd y Senedd

Mae Symffoni Coedwigoedd Glaw CÂN Y COED yn gwahodd cynulleidfaoedd i ymgysylltu â'r amgylchedd trwy gydweithrediad unigryw â natur, ac am y tro cyntaf, mae Coedwigoedd Glaw Cymru yn cyflwyno'u cân oddi tan y rhisgl i'r byd digidol.

Mae'r artist sain amgylcheddol a'r cyfansoddwr â nam ar y clyw, Cheryl Beer, wedi treulio'r flwyddyn ddiwethaf yn gweithio gyda Choedwigoedd Glaw hynafol Cymru, yn cyfansoddi cerddoriaeth dan arweiniad y systemau fasgwlaidd mewn pum clofan yn yr hyn sy’n weddill.

Mae ei gwaith yn aduno tiroedd Celtaidd hynafol a oedd gynt wedi’u cysylltu dan y pridd drwy edafedd mân, pluog o ffwng myceliwm, yn un goedwig law odidog, sydd bellach yn fregus ac yn dameidiog. 

Trwy addasu cymhorthion clyw ac offer sain biofeddygol sensitif, mae Cheryl wedi coladu'r bio-rhythmau a grëwyd gan ddargludedd yn nyfnderoedd coed, rhedyn a mwsogl, a defnyddio’r darlleniadau hyn i gyfansoddi Symffoni lle mae pob nodyn o'r gerddoriaeth wedi'i arwain gan y coedwigoedd glaw hynafol eu hunain.

Mae CÂN Y COED yn Gomisiwn Unlimited Main a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru.