Beth Sydd Bwysicaf?

Cyhoeddwyd 23/11/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/02/2024   |   Amser darllen munudau

Same but Different, Marie Curie, a Hospice UK

Noddir gan Mark Isherwood MS

Dyddiadau: 12 Ionawr - 15 Chwefror 2024

Lleoliad: Oriel y Senedd

 

Mae Beth Sydd Bwysicaf? (What Matters Most?) yn cynnig darlun gonest, cignoeth ac ysbrydoledig o'r hyn sy'n bwysig wrth fyw ac wrth farw, gyda'r nod o wella gofal diwedd oes trwy rannu profiadau pobl sy'n derbyn gofal a phobl sy’n rhoi gofal.

Cafodd y prosiect ei ysbrydoli gan brofiad Ceridwen Hughes –y ffotograffydd a chyfarwyddwraig Same but Different – o ofal diwedd oes, pan fu farw ei mam yn 2020. Trwy ffotograffiaeth, ffilm, a hanesion ysgrifenedig, mae'r arddangosfa'n cyfleu profiadau pobl sy'n nesáu at ddiwedd eu hoes, a'r rheini sy’n rhoi gofal a chymorth.

 

Mae poblogaeth sy'n heneiddio yn golygu y bydd nifer y bobl sydd angen gofal lliniarol a gofal diwedd oes yng Nghymru yn cynyddu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd i ddod. Felly, mae'r arddangosfa yn bwrw golwg amserol ar sut y gellir gwella gofal diwedd oes trwy lygaid pobl sydd â phrofiad uniongyrchol.

Mae Beth Sydd Bwysicaf? yn brosiect creadigol cydweithredol rhwng Same but Different, Marie Curie, Hospice UK, a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

 

Lluniau © Ceridwen Hughes