Hyrwyddwyr Cymunedol Casnewydd

Hyrwyddwyr Cymunedol Casnewydd

Hyrwyddwyr Cymunedol Casnewydd

Cyhoeddwyd 14/12/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/03/2024   |   Amser darllen munud

Menywod Casnewydd

Noddir gan John Griffiths MS

Dyddiadau: 23 Ionawr - 1 Ebrill 2024

Lleoliad: Oriel y Dyfodol, y Pierhead

 

'Hyrwyddwyr Cymunedol Casnewydd' yw'r drydedd mewn cyfres o arddangosfeydd gan Kamila Jarczak a Menywod Casnewydd. Trwy ffotograffiaeth Kamila, mae’r arddangosfa’n dathlu llwyddiannau menywod lleol sy’n cefnogi eraill, yn creu cysylltiadau yn eu cymunedau ac yn dod â phositifrwydd i Gasnewydd. Cafodd pob menyw ei henwebu gan berson lleol.

“Mae llawer o unigolion yn gwneud gwaith gwych. Hoffem amlygu’r menywod hyn a’u straeon ac, ar ben hynny, eu cysylltu â’i gilydd a llunio sylfaen ar gyfer dyfodol sy’n seiliedig ar gydweithio, cydgefnogaeth ac ysbrydoliaeth”.

“Mae Menywod Casnewydd yn gweithio gyda’r unigolion hyn. Mae’r arddangosfa hon yn cefnogi eu hymdrechion ac yn gwahodd rhannu sgiliau a chydweithio yn y dyfodol rhwng eu gwahanol brosiectau, gweithdai, a phrofiadau ysbrydoledig”.

- Kamila Jarczak        

 

Lluniau © Kamila Jarczak

Sefydlwyd Menywod Casnewydd gan Kamila Jarczak yn 2019 i gefnogi a dathlu’r amrywiaeth wych o fenywod yng Nghasnewydd, i roi cyhoeddusrwydd iddynt a’u cysylltu â’i gilydd. Nod y grŵp yw grymuso’r gymuned yng Nghasnewydd drwy hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol ac ymgysylltu â phrosiectau lleol sy’n gwneud newid cadarnhaol.

Mae Kamila yn ffotograffydd proffesiynol sy'n berchen ar Kamila J Photography. Mae gwaith Kamila wedi cael sylw ar BBC Wales News a BBC Radio Wales, yn y South Wales Argus a mwy. Yn lleol, mae hi’n adnabyddus am ei gwaith cymunedol a’r rhan mae’n ei chwarae mewn gwahanol brosiectau fel Newport Rising a Ffeministiaeth ar ôl y Rhyfel yng Nghasnewydd.