Eleni, bu llawer o bobl gyffredin  yn gwneud pethau hynod anghyffredin i sicrhau lles a diogelwch ein cymunedau. Fel rhan o'n gwaith i gysylltu â chymunedau – ac er mwyn anrhydeddu eu gwaith caled a'u hymrwymiad – rydym ni wedi creu oriel bortreadau ar-lein yn arddangos hyrwyddwyr cymunedol o bob rhan o Gymru.

Gwahoddwyd Aelodau o’r Senedd i enwebu hyd at dri hyrwyddwr o’u hetholaethau neu eu rhanbarthau i fod yn rhan o’r oriel.

Cafodd y portreadau eu cyhoeddi yn ddyddiol ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol Ymweld â'r Senedd (Instagram y Senedd, Facebook y Senedd, Twitter y Pierhead) ym mis Tachwedd – Rhagfyr 2020.

Mae'r oriel yn rhan o raglen digwyddiadau rhithwir GWLAD a gynhelir gan y Senedd yr hydref 2020. Mae’r enwebeion yn cynnwys unigolion, grwpiau, gweithwyr allweddol a busnesau, sydd wedi gwneud pethau anghyffredin yn ystod y cyfnod Covid-19 i helpu pobl llai breintiedig, a helpu i gadw cymunedau’n gadarn.

Ysgrifennwyd y gerdd 'Egni Cymwynas' gan fardd cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, i gyd-fynd â'r oriel.