Jenny Rathbone Al Iklhas

Al-Iklhas yn Adamsdown

Enwebwyd gan Jenny Rathbone AS, Aelod o’r Senedd dros Ganol Caerdydd.

Mae Al-Iklhas yn Adamsdown yn cynnal banc bwyd sydd wedi cyrraedd 5,114 o bobl dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r tîm hefyd yn danfon parseli i bobl dros 60 oed sy’n hunanynysu; helpu â siopa; a helpu casglu presgripsiynau.

Jenny Rathbone Glenwoodchurch

Gwirfoddolwyr yn Eglwys Glenwood, Llanedeyrn

Enwebwyd gan Jenny Rathbone AS, Aelod o'r Senedd dros Ganol Caerdydd.

Mae’r gwirfoddolwyr hyn wedi bod yn allweddol yn y gwaith o ddiogelu’r rhai mwyaf bregus yng nghymuned Llanedeyrn yn ystod y pandemig drwy sefydlu banc bwyd yr eglwys.

Jenny Rathbone Cook

Kelly Thomas o Cook

Enwebwyd gan Jenny Rathbone AS, Aelod o’r Senedd dros Ganol Caerdydd.

Mae Kelly o The Cook Kitchen wedi bod yn darparu prydau bwyd iach a maethlon i'r gymuned, gan gynnwys y banc bwyd lleol. Mae hyn wedi sicrhau nad yw bwyd yn cael ei wastraffu, a bod pob tamaid yn cael ei ddefnyddio.

Vikki Howells Diane Wood

Diane Wood

Enwebwyd gan Vikki Howells AS, Aelod o’r Senedd dros Gwm Cynon.

Mae Diane o Aberdâr wedi bod yn gweithio yn y gymuned ers 34 o flynyddoedd. Eleni, mae wedi cefnogi grwpiau cymunedol, elusennau ac ysgolion drwy gyfrannu parseli bwyd a chynnig help llaw. Mae ei gwaith yn cael ei gydnabod a’i barchu ymhlith cymuned Aberdâr.

Vikki Howells Jan Werrett And Grace Glendon

Jan a Grace – Cynon Valley Organic Adventures

Enwebwyd gan Vikki Howells AS, Aelod o’r Senedd dros Gwm Cynon.

Roedd Jan Werrett a Grace Glendon yn allweddol yn y broses o sefydlu a rhedeg banc bwyd a gwasanaeth danfon bwyd yng Nghwm Cynon.

Cafodd dros 2,000 o becynnau bwyd eu danfon i bobl sy’n hunanynysu neu’n wynebu trafferthion ariannol, a hynny drwy elusen Jan yn Abercynon, Cwm Cynon.

Vaughan Gething Sarah Bowen

Sarah Bowen

Enwebwyd gan Vaughan Gething AS, Aelod o'r Senedd dros Dde Caerdydd a Phenarth.

Dyma Sarah Bowen – entrepreneur sy’n hyrwyddo merched BAME mewn busnesau lleol.

Hi yw Rheolwr Prosiect Tiger Bay Amateur Boxing Club sydd wedi helpu pobl ifanc i fod yn weithgar ac yn iach.

 

Vaughan Gething Llanrumney Phoenix

Clwb Paffio Phoenix Llanrhymni

Enwebwyd gan Vaughan Gething AS, yr Aelod o'r Senedd dros Dde Caerdydd a Phenarth.

Mae Clwb Paffio Phoenix Llanrhymni wedi cynnal llawer o brosiectau cymunedol, gan fynd y tu hwnt i fyd chwaraeon i ddiwallu anghenion ehangach y gymuned drwy:

  • weithio gyda'r Bwrdd Iechyd lleol a Chwaraeon Caerdydd
  • weithio gyda chleifion â dementia ac iechyd meddwl
  • gynnal sesiynau hyfforddi a chyflogi
  • sefydlu adran i ferched yn unig
Mark Drakeford Dean Bowden

Dean Bowden

Enwebwyd gan Mark Drakeford AS, Aelod o'r Senedd dros Orllewin Caerdydd.

Dean Bowden yw sylfaenydd Clwb Pêl-droed Canton Liberal.

Yn ystod blwyddyn anodd i chwaraeon cymunedol, mae’r clwb wedi rhoi cyfle i blant lleol chwarae pêl-droed yn rheolaidd ac yn ddiogel. Mae’r clwb yn canolbwyntio ar yr adran merched yn benodol ac wedi sefydlu dau dîm newydd i ferched dan 6 a dan 12 ac wedi dechrau rhaglen o sesiynau rhagflas wythnosol.

Mark Drakeford Rebecca Falvey

Rebecca Falvey

Enwebwyd gan Mark Drakeford AS, Aelod o'r Senedd dros Orllewin Caerdydd.

Mae Rebecca yn arwain y prosiect Cadw Glan’rafon yn Daclus, mae hi wedi trefnu’r gymuned leol, wedi ymgyrchu am fwy o adnoddau, ac wedi sefydlu gardd gymunedol yn y ddinas.

Mae ei hymdrechion parhaus wedi gwella’r amgylchedd lleol gan helpu preswylwyr i deimlo’n falch o’u cymuned.

Mark Drakeford Mark Flanagan

Mark Flanagan

Enwebwyd gan Mark Drakeford AS, Aelod o'r Senedd dros Orllewin Caerdydd.

Mark yw sylfaenydd Treganna Gin. Wrth i’r pandemig ddechrau, sylweddolodd Mark fod ei arbenigedd yn gaffaeliad. Aeth ati i gasglu gwirodydd diangen a’u haildistyllu, gan gynhyrchu hylif diheintio dwylo. Roedd hylif o’r fath yn brin ar y pryd, a rhoddodd Mark gannoedd o boteli am ddim i elusennau lleol a phreswylwyr ledled Gorllewin Caerdydd.

Hyrwyddwyr Cymunedol