John Griffiths Ben Antoniou

Ben Antoniou

Enwebwyd gan John Griffiths AS, Aelod o’r Senedd dros Ddwyrain Casnewydd.

Mae Ben wedi bod yn helpu i wneud Dwyrain Casnewydd yn lle glanach a gwyrddach i bawb.

Sefydlodd  grŵp Casglu Sbwriel Dwyrain sydd wedi cynnal sesiynau casglu sbwriel gan gadw pellter cymdeithasol. Cydweithiodd â Cadw Cymru’n Daclus a chwmnïau tecawê i ddatrys problemau sbwriel.

John Griffiths Jalal Goni

Jalal Goni

Enwebwyd gan John Griffiths AS, Aelod o’r Senedd dros Ddwyrain Casnewydd.

Mae Jalal yn rhedeg Exiles Together, sef grŵp cefnogwyr Sir Gasnewydd i gymuned BAME y ddinas.

Mae'r grŵp wedi darparu gliniaduron a donglau i blant, fe nad ydyn nhw'n colli ysgol, ac maen nhw hefyd wedi dosbarthu bwyd i'r henoed a phobl agored i niwed.

John Griffiths Leeann Davies

Leeann Davies

Enwebwyd gan John Griffiths AS, Aelod o’r Senedd dros Ddwyrain Casnewydd.

Mae siop losin, anrhegion a nwyddau haearn traddodiadol Leeann, sef “Village Treats” ym Magwyr, yn ei rhoi wrth galon y gymuned. Mae hi wedi cydweithio â busnesau bach eraill i addasu eu gweithgarwch yn ystod y pandemig er mwyn cefnogi eu cwsmeriaid.

Delyth Jewell Katherine Hughes

Katherine Hughes

Enwebwyd gan Delyth Jewell AS, Aelod o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru.

Nod Katherine eleni oedd cadw pobl mewn cysylltiad trwy sefydlu cynllun Cyfeillio dros y Ffôn, a threfnu partïau ar-lein ar gyfer y Pasg, Gŵyl Fai a Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop.

A hyn i gyd heb unrhyw sgiliau digidol blaenorol!

Jayne Bryant Mike Puffa

Mike 'Puffa' Jones

Enwebwyd gan Jayne Bryant AS, Aelod o’r Senedd dros Orllewin Casnewydd.

Mae Mike 'Puffa' Jones yn credu y dylai pob plentyn gael beic, felly mae’n ailgylchu hen feiciau ac yn eu rhoi i blant a gweithwyr allweddol, gan wneud gwahaniaeth ar gyfer pobl ifanc a theuluoedd yn ystod y pandemig.

Jayne Bryant Marilyn Bryan Jones

Marilyn Bryan-Jones

Enwebwyd gan Jayne Bryant AS, Aelod o’r Senedd dros Orllewin Casnewydd.

Drwy Grŵp Treftadaeth y Caribî, mae wedi cynorthwyo’i chymuned, gan gadw cysylltiad â nhw a chan ofalu eu bod yn cael y wybodaeth angenrheidiol. Mae’n hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth drwy addysg a chwaraeon yng Nghasnewydd, gan ysbrydoli llawer.

Dawn Bowden Stephen Morris

Stephen Morris

Enwebwyd gan Dawn Bowden AS, yr Aelod dros Ferthyr Tudful a Rhymni.

Mae Stephen Morris wedi bod wrth wraidd yr ymdeimlad o gymuned ym Merthyr Tudful ers mis Mawrth. Drwy gynnal sawl raffl a lansio mentrau eraill i godi arian, mae Stephen wedi codi swm anhygoel o £28,000 i’r GIG a nifer o achosion lleol.

Dawn Bowden Deborah Bowen

Deborah o fwyty Tommy Box

Enwebwyd gan Dawn Bowden AS, yr Aelod dros Ferthyr Tudful a Rhymni.

Darparodd Deborah Bowen  o fwyty Tommy Box yn Nhreharris, Merthyr Tudful brydau bwyd am ddim i staff yn Ysbyty’r Tywysog Siarl er ei bod wedi gorfod addasu ei busnes ei hun yn ystod y cyfyngiadau symud yn sgîl Covid-19.

Hyrwyddwyr Cymunedol